Content only available in Welsh (No English translation available)

Polisi Addysg Cymuned

1. Cyd-destun polisi addysg Cymuned1.1 Ers i’r Cynulliad gael ei sefydlu bu’n amser cyffrous yn y maes addysg yng Nghymru, gyda llu o fentrau, cynlluniau, adroddiadau a dogfennau polisi yn cael eu cyhoeddi a’u gweithredu. Maent wedi eu hamcanu at gynyddu cyfleoedd addysg i holl bobl Cymru ac at wella safonau a chyraeddiadau addysgol i bawb. Mae’r ddogfen ymbaratoi, Y Wlad sy’n Dysgu, a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Addysg a Dysgu Gydol Oes ym mis Awst 2001, nid yn unig yn datgan y bwriad o greu trefn addysg sy’n briodol i Gymru yn benodol, ond hefyd yn atgyfnerthu penderfyniad y Cynulliad, yng Ngorffennaf 2001, i "gefnogi’n gryf y nod o greu Cymru ddwyieithog fel nod cenedlaethol cyraeddadwy". Ceisio diffinio sut i gyflawni gweledigaeth y Cynulliad yw pwrpas yr adolygiad presennol o’r iaith Gymraeg mewn Addysg. Mae polisi Cymuned yn adlewyrchu’r ffaith ein bod yn parhau i fod mewn cyfnod o newid sylfaenol yn y drefn addysg yng Nghymru ac yn cynnig dulliau ymarferol o gyflawni nod y Cynulliad a sicrhau ffyniant yr iaith Gymraeg fel iaith gymunedol. 1.2 Mae Cymuned yn croesawu adolygiad o’r fath ac yn cydnabod yr angen am strategaeth genedlaethol i gynyddu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ym mhob ardal yng Nghymru, er mwyn rhoi cyfle cyfartal i bob plentyn. Yn ogystal, mae Cymuned yn cefnogi’r galw am welliannau o ran dilyniant a pharhad mewn addysg Gymraeg ym mhob cwr o Gymru ac ym mhob sector o’r drefn addsyg. 1.3 Fodd bynnag, mudiad wedi’i sefydlu i warchod buddiannau yr ardaloedd tiriogaethol traddodiadol Cymraeg yw Cymuned a pholisi addysg ar gyfer yr ardaloedd hynny yw hwn. Os ystyrir nod y Cynulliad fel nod tymor hir i Gymru gyfan, mae’n amlwg y bydd yn rhaid gweithredu yn wahanol mewn gwahanol rannau o’r wlad. Nid yr un man cychwyn a geir ym mhob rhanbarth a rhaid ystyried y broses i Gymru gyfan fel continwwm. Serch hynny, cred Cymuned mai’r un yw’r nod i Gymru gyfan. 1.4 Mae’r drefn addysg bresennol, er mor llwyddiannus yw hi yn cynhyrchu siaradwyr Cymraeg dros dro, wedi methu cynhyrchu digon o bobl sy’n parhau i fod yn hyderus ddwyieithog h.y. yn gallu gweithio ac ymarfer eu proffesiwn mewn dwy iaith yn hyderus; yn gallu defnyddio’r Gymraeg fel iaith gymunedol; yn gallu trosglwyddo’r Gymraeg i’w plant eu hunain. Rhaid sicrhau fod pob darpariaeth addysg yn cyfrannu tuag at y broses o greu siaradwyr Cymraeg parhaol a hyderus. 1.5 Nid yw’r Gymraeg yn bwnc llorweddol yn y Cynulliad ar hyn o bryd. Byddai ei thrin fel pynciau llorweddol eraill, megis cyfle cyfartal ayb yn ei gwneud yn haws i gasglu ystadegau sy’n berthnasol i’r holl feysydd sy’n ymwneud ag addysg. Ar hyn o bryd mae’n anodd crynhoi’r holl wybodaeth berthnasol sydd ei hangen os ydym am gael strategaeth genedlaethol ar gyfer addysg Gymraeg. 2. Rhagarweiniad2.1 Os yw’r iaith Cymraeg am ffynnu yng nghadarnleodd yr iaith a datblygu yn yr ardaloedd mwy Seisnigedig rhaid i Bolisi Addysg unrhyw sefydliad addysgol fod ynghlwm â pholisi iaith sydd yn cael ei weithredu yn effeithiol. Mae Cymuned yn datgan bod rhaid amcanu at nodau uchelgeisiol sydd yn sicrhau fod yr iaith Cymraeg ddim yn cael ei gosod mewn sefyllfa anfanteisiol. Ni ddylai’r Gymraeg gael ei chyfrif fel 'pwnc’ - cyfrwng yw’r Gymraeg sydd yn galluogi unrhyw ddisgybl i feithrin a datblygu ystod o sgiliau o fewn y maes llafur o’u dewis. 2.2 Yng nholeuni hynny dylid amcanu at weithredu polisi dwyieithog trwy holl sefydliadau addysgol Cymru fel bod modd sicrhau dilyniant i’r polisi hwnnw yn y ddarpariaeth Addysg Bellach. Y nod yw sicrhau bod holl ddisgyblion o fewn y gyfundrefn addysg yn cael cyfle cyfartal i feddu ar ddwyieithrwydd cytbwys, oed-berthnasol er mwyn iddynt berchnogi’r iaith a bod yn aelodau cyflawn o’u cymdeithas 2.3 Mae’r amcanion uchod yn briodol ar gyfer yr holl ystod oedran o fewn y gyfundrefn addysg -: Addysg Cyn-ysgolAddysg Plentyndod CynnarAddysg GynraddAddysg UwchraddAddysg Bellach / AlwedigaetholAddysg UwchAddysg Gydol Oes2.4 Mae Cymuned yn ogystal yn datgan fod rhaid ymestyn yr amcanion uchod i’r gwasanaethau sy’n gysylltiedig ag addysg-: Gwasanaeth iechyd - meddygaethGwasanaethau cymdeithasol / llesTherapyddion iaith a lleferyddGwasanaeth namau corfforol / anghenion meddygolGwasanaeth Seicoleg AddysgolGwasanaeth therapi galwedigaetholDylid pwyso am strategaeth genedlaethol fyddai’n sicrhau fod gwasanaeth Cymraeg ar gael i bob plentyn / myfyriwr sy'n dymuno hynny.2.5 Prif Nodau
  • Dylai’r Gymraeg fod yn bwnc llorweddol yn holl adrannau’r Cynulliad
  • Datblygu cyfleoedd i bob plentyn gael profiad o’r dull trochi yn y blynyddoedd cynnar
  • Sefydlu’r Gymraeg fel cyfrwng yn holl ysgolion yr ardaloedd Cymraeg
  • Datblygu’r iaith fel cyfrwng yn holl ysgolion eraill Cymru
  • Sefydlu a chyllido canolfannau iaith i wasanaethu holl ysgolion Cymraeg Cymru er mwyn sicrhau cymhathu llwyddiannus
  • Datblygu strategaeth cenedlaethol ar gyfer addysg bellach/addysg gydol oes (bob cwrs, ffurfiol ac anffurfiol, tu allan i addysg uwch )
  • Addysg uwch - sefydlu Coleg Ffederal yn ôl y model a argymhellir gan Dr Dafydd Glyn Jones
3. Gwasanaeth cyn-ysgol3.1 Mae Cymuned yn galw am ehangu’r prosiect Trosglwyddo Iaith presennol. Dyma’r cyfnod allweddol o ran penderfyniad rhieni ar iaith addysgu eu plant yn y dyfodol. Mae angen cynyddu mewnbwn y prosiect hwn yn yr ardaloedd Cymraeg. 3.2 Yn dilyn o’r uchod dylid cynyddu’r cyfleoedd i rieni ifanc ddechrau cael gafael ar y Gymraeg gyda’u plant, yn anffurfiol. Mae angen un ai newid canllawiau rhai cynlluniau i gydnabod hyn neu roi cyfarwyddyd mwy eglur i reolwyr a chyllidwyr cynlluniau o’r fath e.e. Cychwyn Cadarn; ELWa. Dylid adeiladu ar brofiad darparwyr fel Mudiad Ysgolion Meithrin gyda’u Cynllun Cymraeg i’r Teulu neu’r Cynllun Cefnogi Teuluoedd a ariannwyd drwy gyllid o Ewrop. Dylid cydweithio gyda phartneriaid megis Cymraeg i Oedolion a’r colegau addysg bellach i darparu dilyniant ar gyfer y rhieni sy’n dymuno hynny, a hynny drwy gyrsiau anffurfiol yn ogystal â rhai sy'n arwain at gymwysterau cydnabyddedig. 3.3 Rheolir llawer o’r gwasanaeth i blant bach o dan oed ysgol a’u teuluoedd gan asiantaethau tu allan i’r drefn addysg statudol - y gwasanaeth iechyd, adrannau eraill yr awdurdodau lleol a’r sector gwirfoddol, er enghraifft. Fodd bynnag, mae eu cyfraniad tuag at ddatblygiad addysgol plant yn nes ymlaen yn holl bwysig. 3.4 Yn yr ardaloedd Cymraeg mae Cymuned yn galw ar y llywodraeth i sicrhau fod gwasanaeth Cymraeg ar gael i bob plentyn cyn-ysgol. Mae gwasanaethau o’r fath yn eang ac yn cynnwys gwasanaethau proffesiynol fel therapi iaith a lleferydd, seicoleg addysgol, ffisiotherapi pediatrig. Maent hefyd yn cynnwys gwasanaethau ymwelwyr iechyd, gweithwyr cymdeithasol, gwasanaethau cefnogi teuluoedd. Ar hyn o bryd mae bylchau enfawr yn y ddarpariaeth Gymraeg sydd ar gael i blant ac mae hyn yn cael effaith negyddol ar deuluoedd ac ar yr iaith Gymraeg. 3.5 Mae angen cryfhau’r orfodaeth ar gyrff cyhoeddus yn yr ardaloedd Cymraeg i ddarparu eu holl wasanaethau i blant drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae llywodraeth ganolog, llywodraeth leol a chyrff cyhoeddus eraill yn cydweithio gyda’r sector gwirfoddol i gyflwyno llawer o wasanaethau i blant bach a’u teuluoedd yng Nghymru. Yn yr ardaloedd Cymraeg mae Cymuned yn galw ar gyllidwyr prosiectau o’r fath i sicrhau bod pob asiantaeth sy’n gweithio mewn partneriaeth â hwy yn cyflwyno gwasanaeth Cymraeg llawn. 3.6 Mae’r uchod i gyd yn berthnasol i’r datblygiadau arfaethedig o Ganolfannau Blynyddoedd Cynnar. Yn yr ardaloedd Cymraeg bydd yn holl bwysig bod y rhain yn datblygu yn hollol ddwyieithog, gyda phob partner yn gallu cynnig gwasanaeth cyfrwng Cymraeg. Dylid cadw hyn mewn cof yn ardaloedd eraill Cymru wrth sefydlu'r Canolfannau, hefyd. Bydd yn gyfle unigryw i sefydlu rhywbeth o’r newydd ac nid rhywbeth atodol ddylai’r Gymraeg fod ynddynt. 4. Addysg feithrin i blant o dair oed ymlaen4.1 Mae Cymuned yn croesawu cynllun y llywodraeth i ariannu addysg rhan amser i blant tair oed os yw rhieni yn dymuno hynny. Yn yr ardaloedd Cymraeg dylid ariannu darparwyr sy’n arfer y dull trochi, ac yn cyflwyno addysg cyfrwng Cymraeg, yn unig. 4.2 Dylai addysg feithrin yn y sector statudol, i blant rhwng 3 a 7 oed, yn yr ardaloedd Cymraeg, fod trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig ac yn arwain at ddilyniant i addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghyfnodau Allweddol 1 & 2 a thu hwnt. 5. Addysg Gynradd 5.1 Yr unig ffordd i sicrhau dyfodol i’r iaith Gymraeg yw i bob ysgol gynradd yng Nghymru gyrraedd y nod o hyfedredd oed-berthnasol cyfochrog yn y Gymraeg a’r Saesneg erbyn diwedd C.A.2.5.2 Dylai pob ysgol gynradd feddu ar bolisi a Chynllun Addysg Gymraeg sydd yn nodi yn eglur sut y mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio fel cyfrwng dysgu ac fel iaith weithredol a chymdeithasol yr ysgol 5.3 O fewn yr ardaloedd tiriogaethol traddodiadol Gymraeg - y Gymraeg fydd iaith gyfathrebu’r ysgol -: a) Yng ngweinyddiad yr ysgol o ddydd i ddyddFel iaith achlysurol ( tua allan i sesiynau addysgu )Fel iaith gwasanaethau boreol a chynulliadau torfolb) Y Gymraeg fydd cyfrwng yr addysgu wrth gyflwyno a chofnodi ar draws y cwricwlwm c) Yn ystod y blynyddoedd cynnar y Gymraeg yn unig fydd cyfrwng yr addsygu. ch) Cyflwynir y Saesneg fel pwnc yn C.A.2 5.4 O fewn yr ardaloedd a nodir yn 5.3, y nod yw sicrhau fod disgyblion yn cyrraedd hyfedredd oed-berthnasol cyfochrog yn y Gymraeg a’r Saesneg erbyn diwedd C.A. 2 5.5 Hwyr-ddyfodiaid5.5.1 Mae Cymuned yn credu mae y drefn canolfannau iaith yw’r un sy’n sicrhau fod hwyr-ddyfodiaid yn cael eu cymhathu yn llwyddiannus i’r ysgolion lleol 5.5.2 Dylid sefydlu canolfannau iaith i wasanaethu holl ysgolion cynradd ac uwchradd Cymraeg Cymru5.5.3 Dylai’r Cynulliad gyllido’r drefn yn ddigonol er mwyn sicrhau fod pob hwyr ddyfodiad yn mynychu canolfan iaith am ddau dymor cyn dechrau astudio mewn ysgol 6. Addysg Uwchradd 6.1 Yr unig ffordd i sicrhau parhad wrth i’r disgyblion symud o’r cynradd i’r uwchradd yw drwy sicrhau fod y Gymraeg yn gyfrwng addysg i bawb yn yr uwchradd.6.2 O fewn yr ardaloedd tiriogaethol traddodiadol Gymraeg, felly, cred Cymuned y dylai pob ysgol uwchradd fod yn un Gymraeg. Cymraeg fydd iaith gweinyddu ac addysgu yn yr ysgolion hyn.6.3 Dyma’r unig ffordd i sicrhau y bydd holl ddisgyblion yr ardal yn cael gwir gyfle i fagu sgiliau digonol yn y Gymraeg ac i fagu parch tuag at iaith a thraddodiadau’r ardaloedd hynny.6.4 Dylid dysgu’r Saesneg fel pwnc a’r Gymraeg ddylai fod cyfrwng pob pwnc arall. Mae’n holl-bwysig o ran dyfodol yr iaith fod yr iaith yn cael ei defnyddio ym mhob maes. Anwybodaeth yn unig sydd wrth wraidd unrhyw ddatganiad sy’n dweud nad ellir trafod rhai pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg.6.5 Mae Cymuned yn derbyn na ellir newid y sefyllfa dros nos ond gallai’r polisi fod yn weithredol o fewn saith mlynedd a thrwy hynny wasanaethau y disgyblion a fydd yn dechrau eu haddysg gynradd eleni. 6.6 Yn ystod y saith mlynedd nesaf bydd angen:
  • s icrhau hyfforddiant ieithyddol i’r athrawon hynny nad ydynt yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd
  • sicrhau hyfforddiant ieithyddol i staff gweinyddol yr ysgolion
  • sefydlu canolfannau iaith i ddisgyblion sy’n hwyr-ddyfodiaid. Darperir cyrsiau Cymraeg dwys i sicrhau bod unrhyw blentyn sy’n symud i fyw i’r ardal ac sydd yn ddi-Gymraeg yn medru mynychu’r ysgolion o fewn dau fis
6.7 Mae gan y Cynulliad Cenedlaethol gyfrifoldeb i gyllido’r uchod. 7 Addysg Gyrfaoedd7.1 Rhaid rhoi cyfle i bobol ifainc i aros a gweithio yn eu cynefin os y dymunant. Yn aml, oherwydd anwybodaeth, nid yw’r sgiliau a/neu’r hyfforddiant addas gan bobol ifanc ar gyfer swyddi yn eu cynefin.7.2 Galwn, felly, ar y Cynulliad i greu a chyllido Cynllun Hyfforddi Sirol lle bydd pob sir yn gwneud arolwg manwl o’r swyddi a fydd ar gael yn y sector cyhoeddus yn y sir honno ymhen pedair blynedd ac yn cynnig grantiau i bobol lleol i hyfforddi ar gyfer y swyddi hynny. Bydd y Cynllun yn sicrhau cytundeb rhwng y sir a’r gweithiwr am gyfnod yr hyfforddi ac o leiaf 2 flynedd ar ôl hynny. 8. Addysg ôl-16/Addysg Bellach/Addysg Alwedigaethol8.1 Cyhoeddodd y Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes ddogfen fanwl, Y Gymraeg Mewn Addysg Yng Nghymru yn disgrifo’r sefyllfa bresennol yng Nghymru ar draws yr holl sectorau. Mae’n cadarnhau yr hyn sy’n hysbys ar lawr gwlad - sef bod dilyniant i addysg ôl-16, addysg bellach ac addysg alwedigaethol yn wan. Mae hefyd yn cadarnhau bod fframweithiau yn bodoli’n barod ond nid ydynt yn cael eu gweithredu yn llawn drwy Gymru gyfan. Mewn chwe sefydliad addysg bellach yn unig mae trwch y gweithgaredd, a hynny yn yr ardaloedd tiriogaethol traddodiadol Gymraeg yn bennaf. Serch hynny, bychan yw’r niferoedd myfyrwyr cyfrwng Cymraeg fel canran o’r holl fyfyrwyr, mae’r niferoedd yn gostwng, ac mae’r niferoedd sy’n cael eu hasesu yn Gymraeg/dwyieithog yn isel iawn. 8.2 Yn adroddiad y Cynulliad Cenedlaethol am aelodaeth CCET’s drwy Gymru nodir bod y gynrychiolaeth o ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ddiffygiol yn gyffredinol. Mae Cymuned am weld newid ar unwaith yn hyn yn yr ardaloedd traddodiadol.8.3 Mae Cymuned yn galw am strategaeth genedlaethol effeithiol a fydd yn rhoi sylw penodol i anghenion myfyrwyr ôl 16 yn yr ardaloedd tiriogaethol traddodiadol. 8.4 Fel yn 6.6 a 6.7 mae Cymuned yn cydnabod na ellir newid sefyllfa dros nos ac yn galw am raglen hyfforddi benodol dros y saith mlyedd nesaf i alluogi staff dysgu a gweinyddol y colegau addysg bellach yn yr ardaloedd Cymraeg i weithio trwy gyfrwng y ddwy iaith.8.5 Dylai pob myfyriwr yn yr ardaloedd tiriogaethol traddodiadol gael cyfle i ddilyn pob cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg os yw’n dymuno hynny, yn awr. Os nad yw darparwr yn gallu cynnig cyfleodd cyfrwng Cymraeg yn awr, dylai gydweithio â darparwyr eraill i sicrhau cyfle cyfartal i bawb. Mae dulliau amgen megis dysgu o bell a defnyddio TGCh ar gael eisoes. Diffyg ewyllys sy’n llesteirio cynnig cyfle.8.6 Mae Cymuned am weld yr un cyfleoedd ym maes addysg alwedigaethol. Heb hynny ni fydd datblygiad yn nefnydd yr iaith fel iaith gymunedol a iaith gwaith. Er enghraifft, ychydig o gyfleoedd hyfforddi cyfrwng Cymraeg a Chymreig a gynigir ym maes twristiaeth - maes yr honnir fydd o bwys mawr i ddyfodol economaidd y cymunedau Cymraeg. Mae’r un yn wir am feysydd eraill. 8.7 Mae diffyg adnoddau cyfrwng Cymraeg yn y meysydd uchod. Er bod nifer o sefydliadau yn gweithio yn y maes mae angen gwell cydlynu, cydweithio a rhannu gwybodaeth. Dyma un maes ble byddai strategaeth genedlaethol yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr. Nid cyfieithiadau uniongyrchol o ddeunyddiau o wledydd eraill sydd eu hangen chwaith, ond deunyddiau Cymreig eu naws. 8.8 Mae gan y Cynulliad Cenedlaethol gyfrifoldeb i gyllido’r uchod. 9 Addysg Gydol Oes/Addysg Gymunedol9.1 Mae nifer fawr o gyfleoedd addysg ffurfiol ac anffurfiol yn digwydd drwy lawer o asiantaethau eraill heblaw’r drefn addysg statudol. Yn yr ardaloedd traddodiadol Gymraeg dylai unrhyw ddarparwr neu fudiad sy’n derbyn arian cyhoeddus a sy’n darparu cyfleoedd o’r fath sicrhau eu bod yn gyfrwng Cymraeg/dwyieithog. 9.2 Mae angen cryfhau Cynlluniau Addysg Gymraeg statudol pob sir ble ceir ardaloedd traddodiadol Gymraeg i sicrhau bod gwasanaethau o’r fath yn rhan ganolog o’r cynllunio, yn darparu cyfleoedd cyfartal ac yn fwy atebol am lefelau y ddarpariaeth a gynigir ganddynt mewn gwirionedd. 9.3 Mae cynlluniau eisoes yn bodoli i ariannu offer cyfieithu cymunedol a hyfforddi pobl yn y gymuned i ymgymryd â’r gwaith o fewn eu cymunedau. Mae angen ehangu’r rhain ar unwaith, drwy’r ardaloedd Cymraeg i ddechrau, drwy gynyddu’r cyllid ar eu cyfer. Ar yr un pryd, mae angen annog darlithwyr / siaradwyr / hyfforddwyr ayb i ddarparu eu deunyddiau yn ddwyieithog ac i draddodi’r deunydd yn Gymraeg, ble gallant. Mae newid arferion ieithyddol pobl yn waith cymhleth ac anodd ond byddai’r uchod yn cynyddu defnydd yr iaith yn y gymuned ac yn cynyddu hyder unigolion yn eu gallu i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob maes addysg a hyfforddiant. Dylai Bwrdd yr Iaith arwain prosiect o’r fath ar lefel genedlaethol, gyda’r Mentrau Iaith yn ei ddatblygu ymhellach ar lefel lleol. 10. Addysg Uwch Mae Cymuned yn cefnogi datblygu Coleg Ffederal yn unol â'r model a argymhellir gan y Dr. Dafydd Glyn Jones.

In this section

Partners & Help