Cwestiynau Cyffredin
- Pa mor fawr yw’r adeilad?
- Pwy oedd yn gyfrifol am gynllunio ac adeiladu'r Senedd?
- Pa ddeunyddiau a ddefnyddiwyd i adeiladu’r Senedd?
- Faint oedd cost adeilad y Senedd?
- Faint oedd cost y tir?
- Pam na chafodd cytundeb Dylunio ac Adeiladu ei defnyddio o'r cychwyn cyntaf?
- Pam bod angen ‘simnai’ ar y Senedd?
- Beth sydd y tu mewn i’r adeilad?
- Pam bod y siambr yn grwn?
- Faint o aelodau’r cyhoedd sy’n gallu edrych ar drafodion y Cynulliad yn y Senedd?
- Pa ddarpariaeth sydd i wneud y Senedd yn lle hawdd i bobl anabl fynd iddo?
- Sut mae’r Senedd yn gosod esiampl o ran datblygu cynaliadwy a defnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy?
- Oes gen i hawl i dynnu ffotograffau yn y Senedd?
- Beth yw oriau agor y Senedd? (Cyfleusterau Cyhoeddus - tudalen newydd)
Pa mor fawr yw’r adeilad?
Tua 5,300 metr sgwâr yw arwynebedd yr adeilad yn fras. BrigPwy oedd yn gyfrifol am gynllunio ac adeiladu'r Senedd?
Cafodd y Senedd ei gynllunio a’i adeiladu gan gonsortiwm o gwmnïau:- Contractwr: Taylor Woodrow
- Pensaer: Richard Rogers Partnership
- Peiriannwyr Strwythurol: Arup
- Peiriannwyr Amgylcheddol / Trydannol: BDSP Partnership
- Rheolwr Prosiect: TPS
- Syrfëwr Meintiau: Northcroft
Pa ddeunyddiau a ddefnyddiwyd i adeiladu’r Senedd?
Dalennau alwminiwm yw rhan uchaf y to ac oddi tano mae bondo pren plethedig. Mae colofnau dur yn cynnal y to. Mae’r ffrâm wedi’i wneud yn bennaf o bren a dur, a llechi a gwydr a ddefnyddiwyd ar gyfer y waliau allanol. Concrid atgyfnerthedig a llechi a ddefnyddwyd i greu y plinth. Derw Cymreig yw deunydd y desgiau yn y Siambr a’r seddau yn yr orielau cyhoeddus. BrigFaint oedd cost adeilad y Senedd?
Cost yr adeilad, gan gynnwys celfi, ffitiadau, celf, offer TG a darlledu oedd £67miliwn. BrigFaint oedd cost y tir?
Prynwyd y tir ar rhent rhad o £1. BrigPam na chafodd cytundeb Dylunio ac Adeiladu ei defnyddio o'r cychwyn cyntaf?
Dewiswyd y dull Contractio a Rheoli i ddechrau gan mai amser oedd y prif ffactor i gael yr adeilad yn barod mewn pryd. Roedd y dull caffael hwn yn addas ar y pryd. Ond fe'i hystyriwyd yn ddoeth adolygu'r sefyllfa'r wedi i'r Cynulliad benderfynnu dilyn strategaeth gaffael wahanol. Mae Contractio a Rheoli yn ffordd gydnabyddedig o gaffael gwaith adeiladu lle telir ffi i'r contractiwr rheoli i reoli'r gwaith adeiladu a wneir gan nifer o gontractwyr arbenigol a is-gontrectir i'r contractiwr rheoli. Mae'n galluogi'r gwaith adeiladu i fynd yn ei flaen yn gynnar a chyn i'r holl waith dylunio gael ei gwblhau. Yr ymgynghorwyr sy'n cael eu cyflogi gan y cleient sy'n gyfrifol am y dyluniad. Mae dylunio ac adeiladu yn ffordd gydnabyddedig o gaffael gwaith adeiladu lle mae un contractiwr yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros y gwaith dylunio a'r gwaith adeiladu. BrigPam bod angen ‘simnai’ ar y Senedd?
Llusern sy'n cael ei throi gan y gwynt yw'r 'simnai' a caiff ei defnyddio i awyru'r tu fewn a'r gollyngfeydd aer yn y to i helpu cylchrediad naturiol yr aer. Nod hyn yw defnyddio llai o ynni. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth. BrigBeth sydd y tu mewn i’r adeilad?
Mae’r Senedd yn gartref i:- Siambr drafod gyda lle ynddi i 60 o Aelodau a lle hefyd i swyddogion, y cyfryngau a’r cyhoedd
- Tair ystafell bwyllgora gyda lle ynddynt i 24 o bobl o gwmpas bwrdd gan gynnwys tystion a swyddogion. Bydd gan bob ystafell bwyllgora oriel â seddau ar gyfer aelodau'r cyhoedd a'r cyfryngau;
- Mannau cyhoeddus fel:
- Cilfach Rhieni a Phlant
- Man Arddangos
- Lluniaeth
- Y Cyfleusterau arferol i'r Cyhoedd; - Cyfleusterau i'r cyfryngau;
- Ystafelloedd i Reolwyr Busnes y Pleidiau;
- Ystafelloedd i’r Prif Weinidog a’r Llywydd;
- Parlwr Te/Lolfa i'r Aelodau.
Pam bod y siambr yn grwn?
Mae'r siambr wedi’i dylunio fel bod yr holl aelodau’n gallu gweld ei gilydd, gyda’r nôd o wneud y broses ddemocrataidd yn fwy agored a chynhwysol ac yn llai cecrus. BrigFaint o aelodau’r cyhoedd sy’n gallu edrych ar drafodion y Cynulliad yn y Senedd?
Mae lle i ryw 120 o aelodau’r cyhoedd yn Oriel Gyhoeddus y Siambr, ac i ryw 30 ym mhob un o’r Ystafelloedd Pwyllgora. BrigPa ddarpariaeth sydd i wneud y Senedd yn lle hawdd i bobl anabl fynd iddo?
Nod y Cynulliad wrth ddatblygu'r dyluniad oedd creu adeilad sydd yn esiampl o adeilad sy'n agored i bawb. Mae'r holl fannau cyhoeddus yn hawdd i bawb fynd atynt ond ni fu'n bosibl sicrhau hyn yn y siambr drafod. Mae gwrthdaro wedi bod yn y blaenoriaethau o ran gwneud yr adeilad yn agored i bawb a gofynion darlledu. Felly, 70% o'r seddi sy'n hawdd mynd atynt yn y Siambr, cadeiriau'r Cabinet yn eu plith. Sefydlwyd Grwp Cyngori ar Fynediad a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o grwpiau â diddordeb mewn anabledd ledled Cymru er mwyn bodloni anghenion pobl anabl bod y Senedd yn adeilad hawdd i fynd iddo. BrigSut mae’r Senedd yn gosod esiampl o ran datblygu cynaliadwy a defnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy?
Mae'r Senedd wedi'i gynllunio i gyrraedd perfformiad amgylcheddol o safon uchel. Mae'r adeilad yn bodloni'r meini prawf i gyrraedd safon "Ardderchog" trwy Ddull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil i Adeiladau (BREEAM). Mae'r asesiad wedi ystyried materion ehangach fel cludiant, swn, y defnydd o ddeunyddiau cynaliadwy, rheoli'r adeilad ac egwyddorion "gwyrdd" eraill. Mae'r adeilad yn defnyddio systemau ynni adenwyddadwy yn ogystal â systemau naturiol a goddefol i wresogi ac oeri'r adeilad. Effaith gyffredinol hyn fydd lleihau costau rhedeg yr adeilad 30-50%. BrigOes gen i hawl i dynnu ffotograffau yn y Senedd?
Mae croeso i chi dynnu ffotograffau yn y Senedd cyn belled nad yw hynny’n amharu ar fusnes y Cynulliad. Oherwydd hynny, ni chaniateir defnyddio camerâu gyda fflach yn yr oriel gyhoeddus pan fydd y Cyfarfod Llawn yn mynd rhagddo na thynnu ffotograffau o’r ystafelloedd pwyllgora pan fydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal. Mae tynnu ffotograffau o unrhyw gyfarpar diogelwch yn y Senedd hefyd wedi’i wahardd.
