Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Barn y Cyhoedd 2008
1. Cwmpas yr ymchwil
Comisiynwyd Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru gan Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Comisiwn y Cynulliad) ym mis Ebrill 2008 i ymchwilio i farn y cyhoedd am Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’u gwybodaeth amdano.
Roedd yr ymchwil yn ceisio rhoi sylw i nifer o faterion penodol, gan gynnwys:
Canfod barn gyffredinol y cyhoedd am y Cynulliad Cenedlaethol a datganoli, ac ynghylch rhoi rhagor o bwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol
Faint o ddiddordeb sydd gan y cyhoedd yn y Cynulliad Cenedlaethol a’u gwybodaeth amdano
Edrych ar y ffynonellau y bydd y cyhoedd yn eu defnyddio i gael gwybodaeth am wleidyddiaeth yn gyffredinol, ac am y Cynulliad Cenedlaethol yn benodol
Ar y materion hyn i gyd, gofynnwyd i’r tîm ymchwil greu data y gellid ei rannu yn ôl rhanbarthau neu ddulliau grwpio eraill, megis grwpiau oedran y rhai a ymatebodd.
Gyda hyn mewn golwg, cytunodd Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru a swyddogion Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol yn eu trafodaethau cychwynnol i gynnal arolwg ffôn eang ymysg sampl cynrychioladol o’r cyhoedd yng Nghymru, gan mai dyna fyddai’r ffordd fwyaf cost-effeithiol o gyflawni amcanion yr ymchwil.
Hyd y gwyr y tîm ymchwil, roedd y sampl terfynol – sef dros 2,500 o bobl – yn golygu mai dyma’r arolwg mwyaf erioed o farn y cyhoedd am wleidyddiaeth yng Nghymru. Mae’r dull hwn yn golygu bod modd gwneud amcangyfrifon llawer cywirach o is-samplau – fesul rhanbarth etholiadol, er enghraifft – nag mewn sampl mwy arferol o tua 1000 o ymatebwyr.
Adrannau Eraill:
3. Barn y cyhoedd am y Cynulliad Cenedlaethol a datganoli
4. Diddordeb y cyhoedd yn y Cynulliad Cenedlaethol a’u gwybodaeth amdano
