Pwy Ydym Ni a’r Hyn Rydym yn ei Wneud
Fe greodd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ddau gorff cyfreithiol ar wahân: Llywodraeth Cynulliad Cymru (y corff gweithredol) a Chynulliad Cenedlaethol Cymru (y corff deddfwriaethol). Sefydlwyd trydydd corff hefyd, sef Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Comisiwn y Cynulliad).
·60 Aelod y Cynulliad
·Yn craffu ar Lywodraeth Cynulliad Cymru
·Yn pasio deddfwriaeth
Comisiwn y Cynulliad
·Yn darparu eiddo, adnoddau a staff i Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Llywodraeth Cynulliad Cymru
·Prif Weinidog Cymru a’r Cabinet
·Yn datblygu polisïau ac yn cyflenwi gwasanaethau
Mae Comisiwn y Cynulliad yn bodoli i gefnogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru er mwyn sicrhau ei fod yn cyflawni’i swyddogaethau’n llwyddiannus fel corff democrataidd. Mae hyn yn cynnwys ystod eang o weithgareddau gan gynnwys:
Darparu i Aelodau’r Cynulliad (ACau) yr ystafelloedd, y cyfleusterau, yr offer a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i wneud eu gwaith;
Cefnogi Cyfarfodydd Llawn y Cynulliad a’i Bwyllgorau trwy ddarparu cyngor ar weithdrefnau, cyngor cyfreithiol a chyngor arall;
Darparu gwasanaethau cyfieithu, dehongli ac adrodd sy’n sicrhau y gall y Cynulliad weithredu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg; a
Darparu gwybodaeth ac addysg i’r cyhoedd ynghylch rôl seneddol y Cynulliad a thrwy drefnu ymweliadau â'r Cynulliad ac oddi yno.
Mae Comisiwn y Cynulliad yn gweithredu dan gyfarwyddyd a rheolaeth y Llywydd a phedwar Aelod arall y Cynulliad o’r pedair plaid wleidyddol. Mae gweithrediadau o ddydd i ddydd yn cael eu dirprwyo i Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad.
Diben a Nodau Strategol Comisiwn y Cynulliad
Mae’r Cynllun hwn yn gysylltiedig â diben Comisiwn y Cynulliad, sef "sicrhau bod y Cynulliad yn gorff seneddol hygyrch ac effeithiol sy’n rhoi hyder i bobl Cymru”.
Ein Nodau:
Byddwn yn hybu ac yn ehangu cyfranogiad pobl mewn datganoli;
Byddwn yn dangos undod, arweinyddiaeth ac ymateb hyderus i newid cyfansoddiadol;
Ym mhob agwedd ar ein gwaith, byddwn yn dangos parch, cywirdeb a llywodraethu da;
Byddwn yn gweithio’n gynaliadwy; a
Byddwn yn sicrhau bod y Cynulliad yn darparu’r gwasanaethau gorau, ac y’u darperir yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Datganiad Polisi Cydraddoldeb Strategol
Mae Comisiwn y Cynulliad wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau ein bod, fel cyflogwr a darparwr gwasanaeth, yn sefydliad sy’n esiampl dda yn ein modd o hybu cydraddoldeb, hybu hawliau dynol a darparu gwasanaethau hygyrch. Mae ein Datganiad yn manylu ar sut byddwn yn hybu ein hagenda cydraddoldeb, ac mae’n cynnwys cyfeiriad penodol at y Cynllun Cydraddoldeb hwn:
Ein GweledigaethMae Comisiwn y Cynulliad yn darparu adnoddau, eiddo a staff i alluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i weithredu fel sefydliad democrataidd. Ein gweledigaeth yw bod yn sefydliad blaenllaw yn ein hymrwymiad i hybu cydraddoldeb, gwerthfawrogi amrywiaeth a pharchu hawliau dynol yn ein rôl fel cyflogwr, ac fel sefydliad sy’n rhoi cymorth i Aelodau’r Cynulliad ac sy’n rhyngweithio â’r cyhoedd. Credwn fod cyfle cyfartal i bawb yn hawl dynol sylfaenol ac awn ati i wrthwynebu pob ffurf ar gamwahaniaethu anghyfreithlon ac annheg. Rydym yn ymdrechu i greu corff seneddol hygyrch ac effeithiol sy’n ymgysylltu â holl bobl Cymru ac yn eu parchu. Mae’r polisi hwn yn gysylltiedig â’n Diben a’n Nodau Strategol, ein Cynllun Cydraddoldeb a’n polisïau cyflogaeth. Ein GwerthoeddMae Comisiwn y Cynulliad:
Sut rydym yn bwriadu cyflawni ein gweledigaeth a hybu ein gwerthoedd:
Sut byddwn yn monitro ein cynnydd wrth gyflawni hyn:Bydd ein Cynllun Cydraddoldeb yn cael ei adolygu pob tair blynedd, a byddwn yn cyhoeddi Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol a fydd yn manylu ar ein cynnydd wrth gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb. Bydd Pwyllgor Cyfle Cyfartal y Cynulliad Cenedlaethol yn craffu ar yr Adroddiad hwn bob blwyddyn. |
Mae ein diben, ein gwerthoedd a’n gweledigaeth o ran cydraddoldeb wrth wraidd y Cynllun a’i Gynllun Gweithredu. Rydym yn ymwybodol o’n hymrwymiadau cydraddoldeb cyfreithiol, ond yn awyddus i fynd y tu hwnt i hyn â dull arfer gorau ym mhob un o’r meysydd cydraddoldeb. Mae ein Cynllun Gweithredu’n manylu ar sut rydym yn bwriadu cyflawni’r amcanion cydraddoldeb hyn.
Asesu ein Swyddogaethau Allweddol Mewn Perthynas â Chydraddoldeb
Rydym wedi asesu ein polisïau/ein swyddogaethau o ran eu perthnasedd i hybu cydraddoldeb, a gwelir hyn yn Atodiad 3.
Tîm Cydraddoldeb a Mynediad
Mae’r Tîm Cydraddoldeb a Mynediad yn rhan o Uned Gorfforaethol Comisiwn y Cynulliad, sy’n darparu cymorth i’r Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwyr a Chomisiwn y Cynulliad. Mae’r Tîm yn cynghori staff ac Aelodau’r Cynulliad ar fynediad a materion eraill yn ymwneud â chydraddoldeb. Mae’r Tîm hefyd yn darparu’r cyfeiriad strategol ar gyfer cynllunio materion cydraddoldeb a hawliau dynol, ac mae’n cysylltu â meysydd gwasanaeth yn y sefydliad trwyddo draw.
Grŵp Llywio Cydraddoldeb
Mae gan Gomisiwn y Cynulliad Grŵp Llywio Cydraddoldeb sy'n cynnwys cynrychiolwyr/arweinwyr cydraddoldeb sy'n aelodau o staff (ar bob lefel) yn cynrychioli'u meysydd gwasanaeth penodol. Mae’r Grŵp yn cyfarfod bob chwarter dan gadeiryddiaeth y Prif Weithredwr.
Rôl yr arweinwyr yw codi ymwybyddiaeth o faterion cydraddoldeb a hawliau dynol ymhlith eu cydweithwyr, a monitro cynnydd wrth gyflawni amcanion cydraddoldeb yn eu meysydd gwasanaeth. Mae’r Grŵp wedi cyfrannu at ddatblygu’r Cynllun Cydraddoldeb hwn ochr yn ochr â mewnbwn y meysydd gwasanaeth.
Cyfrifoldeb ac Atebolrwydd
Y Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwyr sy’n gyfrifol am gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb ac sy’n atebol am hyn. Bydd Penaethiaid Gwasanaeth yn nodi canlyniadau a chamau eu meysydd gwasanaeth eu hunain o ran cydraddoldeb wrth lunio cynlluniau busnes eu meysydd gwasanaeth, a bydd y rhain yn cael eu cymeradwyo gan y Cyfarwyddwyr.
Monitro a Gweithredu
Mae Penaethiaid Gwasanaeth, trwy’r Cyfarwyddwyr, yn adrodd i’r Tîm Cydraddoldeb a Mynediad ddwywaith y flwyddyn ynghylch cynnydd wrth gyflawni amcanion cydraddoldeb yn eu meysydd, a bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chynnwys yn Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol Comisiwn y Cynulliad sy’n cael ei gyhoeddi a’i archwilio gan Bwyllgor Cyfle Cyfartal y Cynulliad.
Adolygiad
Mae’r Cynllun Cydraddoldeb hwn yn cwmpasu’r cyfnod rhwng mis Tachwedd 2008 a mis Tachwedd 2011. Byddwn hefyd yn adolygu ein Cynllun Cydraddoldeb yn allanol bob tair blynedd.