Y Gwasanaeth Cymorth i’r Comisiwn ac i’r Aelodau
Mae’r Gwasanaeth Cymorth i’r Comisiwn ac i’r Aelodau yn darparu’r gwasanaethau a ganlyn:
Ysgrifenyddiaeth Comisiwn y Cynulliad;
Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd Rheoli;
Cymorth i’r Llywydd ac i’r Dirprwy Lywydd;
Cymorth i’r Prif Weithredwr a’r Clerc ac i’r Cyfarwyddwyr;
Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd Taliadau
Cymorth Busnes i’r Aelodau
Gwasanaeth cyswllt a datblygu proffesiynol i’r Aelodau a’u staff.
Ysgrifenyddiaeth Comisiwn y Cynulliad
Mae’r ysgrifenyddiaeth yn trefnu cyfarfodydd Comisiwn y Cynulliad, yn comisiynu papurau, yn paratoi ac yn cyhoeddi’r cofnodion. Mae gan Gomisiynwyr unigol gyfrifoldebau portffolio dros agweddau penodol ar waith staff Comisiwn y Cynulliad, ac mae’r ysgrifenyddiaeth yn eu cynorthwyo yn y cyswllt hwn drwy drefnu cyfarfodydd ac ymweliadau yn ôl y galw.
Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd Rheoli
Mae’r ysgrifenyddiaeth yn trefnu cyfarfodydd, yn comisiynu papurau ac yn paratoi’r cofnodion.
Cymorth i’r Llywydd a’r Dirprwy Lywydd
Mae hyn yn cynnwys rheoli dyddiaduron y Llywyddion, cysylltu â’u swyddfeydd etholaethol, delio â phob gohebiaeth, comisiynu cyngor ac atebion drafft gan feysydd cyfrifoldeb eraill, comisiynu nodiadau ar gyfer areithiau, a chysylltu ag Ysgrifenyddiaeth Cabinet Llywodraeth Cymru yn ôl y galw.
Cymorth i’r Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwyr
Mae’r rôl yn cynnwys rheoli dyddiaduron y Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwyr, cydgysylltu gohebiaeth a chomisiynu cyngor yn ôl y galw.
Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd Taliadau
Mae’r ysgrifenyddiaeth yn trefnu cyfarfodydd, yn comisiynu papurau, yn clercio cyfarfodydd, yn paratoi’r cofnodion, yn cysylltu â’r aelodau annibynnol ac yn eu cynghori.
Gwasanaeth cyswllt a chymorth i’r Comisiynydd Safonau
Mae’r ysgrifenyddiaeth yn darparu gwasanaeth cyfrinachol i gynorthwyo’r Comisiynydd Safonau.
Cymorth Busnes i’r Aelodau
Mae’r tîm yn rhoi cyngor ac arweiniad i Aelodau’r Cynulliad a’u staff cymorth ynghylch pob agwedd ar y cymorth ariannol sydd ar gael i’r Aelodau i’w helpu gyda’u gwaith fel cynrychiolwyr etholedig. Mae’r Tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau hefyd yn gyfrifol am roi cyngor ac arweiniad i’r Aelodau o safbwynt eu rôl fel cyflogwyr.
Gwasanaeth cyswllt a datblygu proffesiynol
Datblygu a chydgysylltu cyfleoedd i’r Aelodau a’u staff ddatblygu’n broffesiynol.
