Y Gwasanaethau Cyfreithiol
Mae’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cyfreithiol yn darparu’r gwasanaethau Canlynol:
Cyngor ar Filiau a Chynigion Cydsyniad Deddfwriaethol;
Cyngor ar gwmpas pwerau’r Cynulliad;
Craffu ar Is-ddeddfwriaeth;
Cyngor cyffredinol ar faterion cyfreithiol; a
Chyngor Corfforaethol.
Cyngor ar Filiau a Chynigion Cydsyniad Deddfwriaethol
Mae’r tîm yn gyfrifol am gynghori Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ei Bwyllgorau a’r Llywydd ar gwmpas a chynnwys y Biliau sydd gerbron y Cynulliad, yn ogystal ag ar gynigion ar gyfer rhoi cydsyniad y Cynulliad, drwy Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, i gynigion ar gyfer deddfwriaeth San Steffan ar faterion a ddatganolwyd.
Cyngor ar bwerau’r Cynulliad
Mae’r tîm yn dehongli Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ac yn sicrhau bod yr holl weithgareddau a wneir o fewn ei bwerau. Mae hyn yn cynnwys rhoi cyngor i’r Llywydd a’r Dirprwy Lywydd yng Nghyfarfodydd Llawn y Cynulliad, ac mewn penderfyniadau ynghylch derbynioldeb cynigion a chwestiynau gan Aelodau’r Cynulliad.
Craffu ar Is-ddeddfwriaeth
Mae’r tîm yn rhoi cyngor cyfreithiol i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch craffu ar Is-ddeddfwriaeth.
Cyngor cyffredinol ar faterion cyfreithiol
Mae’r tîm yn rhoi cyngor cyfreithiol amrywiol ar bob agwedd ar waith y Cynulliad, yn aml ar y cyd â gwaith y Gwasanaeth Ymchwil.
Cyngor Corfforaethol
Mae’r tîm yn rhoi cyngor cyfreithiol i Gomisiwn y Cynulliad, y Prif Weithredwr a Chlerc, a staff y Comisiwn yn gyffredinol ar ystod o faterion sy’n codi o gyfrifoldebau Comisiwn y Cynulliad dros eiddo, staff a gwasanaethau. Mae’r tîm hefyd yn darparu cyngor cyfreithiol i Fwrdd Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â’i swyddogaethau.
