Y Comisiynwyr a'u rôl

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn nodi y bydd aelodau Comisiwn y Cynulliad yn cynnwys y Llywydd a phedwar Aelod Cynulliad arall. Mae Rheol Sefydlog 3.3 yn amlinellu’r trefniadau ar gyfer penodi’r pedwar Aelod Cynulliad arall ac yn nodi na fydd mwy nag un aelod (ar wahân i’r Llywydd) o’r un grŵp gwleidyddol.

Etholwyd y Comisiynwyr gan yr Aelodau yng Nghyfarfod Llawn 6 Mehefin 2007. Ynghyd â'r Llywydd, sy'n cadeirio'r Comisiwn, yr aelodau yw Sandy Mewies AC, Angela Burns AC, Rhodri Glyn Thomas AC a Peter Black AC.

Y Commissynwyr a'i rol

Portffolio

Comisiynydd

Llywydd a Chadeirydd y Comisiwn, cyfrifoldeb dros y Gwasanaethau Cyfreithiol.

Rosemary Butler AC

Y gyllideb, llywodraethu, gan gynnwys aelodaeth y Pwyllgor Archwilio, a chysylltiadau â’r Bwrdd Taliadau. Gwella gwasanaethau i Aelodau, cymorth cyflogaeth a datblygu proffesiynol ar gyfer Aelodau a’u staff.

Angela Burns AC

TGCh, darlledu ac e-ddemocratiaeth, ystâd y Cynulliad, cyfleusterau a chynaliadwyedd. Y Comisiwn fel cyflogwr staff y Cynulliad.

Peter Black AC

Gwasanaethau addysg, cyswllt cyntaf, arlwyo a diogelwch. Swyddogaethau statudol y Comisiwn mewn perthynas â chydraddoldeb a rhyddid gwybodaeth.

Sandy Mewies AC

Ymgysylltu a chyfathrebu â’r dinesydd, allgymorth cenedlaethol a rhyngwladol. Swyddogaethau a pholisi’r Comisiwn mewn perthynas â’r Gymraeg.

Rhodri Glyn Thomas AC

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Amdanon Ni
  3. Y Comisiwn a gweinyddiaeth y Cynulliad
  4. Y Commissynwyr a'i rol

Partneriaid a Help