Cydraddoldebau

Croeso i dudalennau Cydraddoldebau Comisiwn y Cynulliad ar y we.  Mae Comisiwn y Cynulliad wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldebau, fel cyflogwr ac fel darparwr gwasanaethau. Ar y tudalennau hyn, disgrifiwn sut y ceisiwn hyrwyddo cydraddoldebau, byddwn yn rhoi’r newyddion diweddaraf am faterion cydraddoldeb ac yn nodi sut y gallwch gysylltu â ni.

Yn ystod misoedd Hydref a Tachwedd 2011, cynhaliwyd ymgynghoriad i gasglu adborth i lywio’r gwaith o ddatblygu ein cynllun. Cliciwch yma i weld datblygiad ein cynllun.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi rhedeg peilot cynllun mentora a chysgodi yn ddiweddar, am bobl o grwpiau nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigono.
Mae ein Cynllun Cydraddoldeb yn nodi ein hymagwedd tuag at fodloni ein hamcanion cydraddoldeb. Rydym wedi datblygu’r Cynllun Cydraddoldeb hwn i gynorthwyo ein sefydliad â hybu cydraddoldeb, gwerthfawrogi amrywiaeth a nodi a chwalu rhwystrau posibl i gydraddoldeb i’n staff, Aelodau’r Cynulliad, eu staff nhw ac aelodau’r cyhoedd.
Mae Comisiwn y Cynulliad yn darparu adnoddau, eiddo a staff i alluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i weithredu fel sefydliad democrataidd. Mae ein Datganiad Cydraddoldeb yn nodi ein hymagwedd tuag at fodloni ein hamcanion cydraddoldeb.
|

Cysylltwch â'r Tim Cydraddoldeb

|

Os hoffech gysylltu â’n Tîm Cydraddoldebau i drafod unrhyw faterion cydraddoldebau/ mynediad neu os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau ynghylch datblygu ein Un Cynllun Cydraddoldebau neu unrhyw fater arall, gallwch gysylltu â Holly neu Ross yn:

Y Tîm Cydraddoldebau
Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Caerdydd
CF99 1NA

Ffôn: 029 2089 8197
Minicom: 029 2089 8601

tim.cydraddoldebau@wales.gov.uk

Partneriaid a Help