Datganiad Polisi Cydraddoldeb Strategol
Ein Gweledigaeth
Mae Comisiwn y Cynulliad yn darparu adnoddau, eiddo a staff i alluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i weithredu fel sefydliad democrataidd.
Ein gweledigaeth yw bod yn sefydliad blaenllaw yn ein hymrwymiad i hybu cydraddoldeb, gwerthfawrogi amrywiaeth a pharchu hawliau dynol yn ein rôl fel cyflogwr, ac fel sefydliad sy’n rhoi cymorth i Aelodau’r Cynulliad ac sy’n rhyngweithio â’r cyhoedd.
Credwn fod cyfle cyfartal i bawb yn hawl dynol sylfaenol ac awn ati i wrthwynebu pob ffurf ar gamwahaniaethu anghyfreithlon ac annheg. Rydym yn ymdrechu i greu corff seneddol hygyrch ac effeithiol sy’n ymgysylltu â holl bobl Cymru ac yn eu parchu. Mae’r polisi hwn yn gysylltiedig â’n Diben a’n Nodau Strategol, ein Cynllun Cydraddoldeb a’n polisïau cyflogaeth.
Ein Gwerthoedd
Mae Comisiwn y Cynulliad:
Yn hybu, yn parchu ac yn gwerthfawrogi cyfle cyfartal ac amrywiaeth
Yn herio ac yn dileu aflonyddu a chamwahaniaethu
Yn cydnabod ac yn chwalu rhwystrau i gydraddoldeb
Yn ymddwyn fel sefydliad sy’n esiampl o gyflogwr da ac sy’n ddarparwr gwasanaeth hygyrch
Yn gwerthfawrogi cyfraniad ein staff ac yn cefnogi pob unigolyn i gyflawni ei botensial llawn
Yn anelu at sicrhau bod ein gweithlu’n gynrychioliadol o’n cymdeithas amrywiol
Yn ehangu cyfranogiad ac ymgysylltiad ledled Cymru
Yn hybu agweddau positif a pherthnasoedd da rhwng pob grwp o bobl
Yn derbyn model cymdeithasol anabledd, gan gydnabod mai’r rhwystrau a grëir gan gymdeithas sy’n creu anabledd, nid amhariad
Sut rydym yn bwriadu cyflawni ein gweledigaeth a hybu ein gwerthoedd:
Trwy roi ein Cynllun Cydraddoldeb a’n Cynllun Gweithredu a pholisïau ategol eraill ar waith a mynd ati i'w monitro
Trwy hyfforddi a chefnogi staff, Aelodau’r Cynulliad a’u staff nhw â gweithgareddau codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant cydraddoldeb perthnasol
Trwy gynnwys ein staff ac aelodau’r cyhoedd yn ein prosesau penderfynu ac asesiadau effaith
Trwy weithredu ar adborth ac awgrymiadau, lle bo’n briodol
Sut byddwn yn monitro ein cynnydd wrth gyflawni hyn:
Bydd ein Cynllun Cydraddoldeb yn cael ei adolygu pob tair blynedd, a byddwn yn cyhoeddi Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol a fydd yn manylu ar ein cynnydd wrth gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb. Bydd Pwyllgor Cyfle Cyfartal y Cynulliad Cenedlaethol yn craffu ar yr Adroddiad hwn bob blwyddyn.
