Yr hyn â gyflawnwyd gan y Cynulliad

Roedd Deddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi creu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn wreiddiol fel corff corfforaethol a chanddo gyfrifoldeb dros arfer swyddogaethau seneddol a llywodraethol. Gan ei fod yn gorff corfforaethol, roedd yn dal i fodoli, yn gyfreithiol, hyd yn oed yn ystod ymgyrch etholiad–ni châi’r Cynulliad ei ddiddymu ac roedd Aelodau’n dal eu swyddi hyd at ddyddiad yr etholiad.

Drwy Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (“y Ddeddf”) gwahanwyd y ddwy rôl (seneddol a llywodraethol) yn ffurfiol a chrëwyd endidau cyfreithiol ar wahân i’w cyflawni: Llywodraeth Cynulliad Cymru (Llywodraeth Cymru) i arfer swyddogaethau llywodraethol a Chynulliad Cenedlaethol Cymru i arfer swyddogaethau seneddol, yn cynnwys gwneud deddfau a chraffu ar waith Llywodraeth Cymru.

Nid yw’r Cynulliad fel y mae wedi’i ailgyfansoddi yn gorff corfforaethol ond yn hytrach yn gymdeithasiad anghorfforedig o 60 o Aelodau a gaiff ei ddiddymu ychydig o wythnosau cyn pob etholiad Cynulliad a’i ailgynnull ar ôl ethol yr Aelodau newydd. Felly nid yw’r Cynulliad yn gorff parhaol, di-dor ac, oherwydd hynny, nid oes ganddo’r gallu (er enghraifft) i wneud contractau hirdymor neu fod yn berchen ar eiddo. Yn Neddf 2006, crëwyd y Comisiwn yn endid cyfreithiol parhaol sy’n gallu gwneud y contractau hirdymor, penodi’r staff a bod yn berchen ar yr eiddo sy’n angenrheidiol er mwyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru arfer ei swyddogaethau.

Adroddiadau manwl ar gyflawniadau’r Cynulliad hyd yma:

Adroddiad etifeddiaeth y Trydydd Cynulliad (2007 i 2011)

Digwyddiadau allweddol yn y broses o ddatblygu Cynulliad Cenedlaethol Cymru  - Yr Ail Gynulliad  (2003 – 2007)

Digwyddiadau allweddol yn y broses o ddatblygu Cynulliad Cenedlaethol Cymru - Y Cynulliad Cyntaf (1999 – 2003)

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Amdanon Ni
  3. Yr hyn â gyflawnwyd gan y Cynulliad

Partneriaid a Help