Rôl y Cynulliad a sut mae’n gweithio

Senedd

Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r corf sy’n cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, i ddeddfu ar gyfer Cymru ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

Mae’r adran hon yn egluro mwy am weinyddiaeth y Cynulliad a sut mae’n gweithio, llwyddiannau’r Cynulliad a hanes y sefydliad a’r ystâd.

Beth yw rôl y Cynulliad?

Mae gan y Cynulliad dair swyddogaeth allweddol: cynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, deddfu ar gyfer Cymru a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

Llywodraethu Cymru - pwy sy’n gyfrifol am beth?

Mae’r Cynulliad yn deddfu ar gyfer Cymru mewn meysydd pwnc penodol. Y tu allan i’r meysydd hyn, mae cyrff gwahanol (fel awdurdodau lleol neu Lywodraeth y DU) yn gwneud deddfau sy’n gymwys i Gymru. Gallwch weld pwy sy’n gyfrifol am beth yn yr adran hon.

Hanes datganoli yng Nghymru

Er mai ym 1999 y ffurfiwyd y Cynulliad, gellir olrhain hanes datganoli gwleidyddol yng Nghymru yn ôl i 1886.

Busnes dydd-i-ddydd y Cynulliad

Mae Aelodau’r Cynulliad yn ymgymryd â’r dasg o gynrychioli Cymru a’i phobl, deddfu ar gyfer Gymru a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn sawl ffordd. Gall hyn gynnwys bod yn bresennol yn nadleuon y Cyfarfod Llawn ac eistedd ar bwyllgorau’r Cynulliad i drafod materion penodol. Cewch wybod mwy am y ffordd y cynhelir busnes y Cynulliad yn yr adran hon.

Etholiadau a phleidleisio

Cynhelir etholiadau i ethol Aelodau i’r 60 o seddi yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru bob pedair blynedd. Eglura’r adran hon sut mae Aelodau’r Cynulliad yn cael eu hethol ac mae’n cynnwys manylion etholiadau’r gorffennol.

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Amdanon Ni
  3. Rôl y Cynulliad a sut mae’n gweithio

Partneriaid a Help