Deddfwriaeth

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn darparu y gall y Cynulliad wneud cyfreithiau, a elwir yn Ddeddfau.

Mae gwybodaeth am ddeddfwriaeth yn y  Pedwerydd Cynulliad ar gael yn ‘Deddfau’r Pedwerydd Cynulliad’.(Bydd y linc hon ar gael yn fuan)

Cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad

Gall y Cynulliad wneud cyfreithiau ar nifer o wahanol bynciau – nodir y rhain yn Atodlen 7 (Saesneg yn unig) i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Yn yr adran hon

Yn y rhan hon, ceir eglurhad o sut mae’r broses ddeddfu yn y Pedwerydd Cynulliad yn gweithio, gyda gwybodaeth bellach am Filiau a Deddfau, canllawiau a dogfennau, megis Atodlen 7.

Mae'r Cynulliad yn craffu ar is-ddeddfwriaeth a luniwyd gan Weinidogion Cymru gan ddefnyddio pwerau a ddirprwywyd iddynt gan Deddf neu Fesur Cynulliad neu gan Ddeddf Seneddol.

Mae is-ddeddfwriaeth yn cynnwys gorchmynion, rheoliadau, rheolau a chynlluniau yn ogystal â chanllawiau statudol a gorchmynion lleol.

Cafodd pwerau deddfu newydd eu rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar ddechrau’r Trydydd Cynulliad ym mis Mai 2007. Darparwyd ar gyfer y pwerau newydd hyn yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006, sy’n galluogi’r Cynulliad i basio deddfwriaeth, a elwir yn Fesurau’r Cynulliad, yn y meysydd y mae ganddo gymhwysedd deddfwriaethol.

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Busnes y Cynulliad
  3. Deddfwriaeth

Partneriaid a Help