Is-ddeddfwriaeth

Mae Is-ddeddfwriaeth (a elwir hefyd yn ddeddfwriaeth ddirprwyedig neu’n offeryn statudol) yn gyfreithiau a wneir o dan bwerau dirprwyedig Deddf neu Fesur y Cynulliad neu Ddeddf Seneddol. Mae’n cynnwys gorchmynion, rheoliadau, rheolau a chynlluniau, a gall gynnwys canllawiau statudol a gorchmynion lleol.

Wrth basio Deddf, mae’r Cynulliad yn cymeradwyo ei egwyddorion, ei amcanion cyffredinol a manylion pwysig eraill. Fodd bynnag, bydd y Ddeddf fel arfer yn rhoi’r pwerau i Weinidogion Cymru, neu gorff arall, wneud rheolau a rheoliadau manwl neu symbylu camau gweithredu mewn perthynas â sut y gweithredir y brif gyfraith.

Caiff is-ddeddfwriaeth hefyd ei galw yn ddeddfwriaeth ddirprwyedig neu’n offerynnau statudol. Mae’n cynnwys gorchmynion, rheoliadau, rheolau a chynlluniau, a gall gynnwys canllawiau statudol a gorchmynion lleol.

Mae gweithdrefnau’r Cynulliad sy’n berthnasol i’r rhan fwyaf o is-ddeddfwriaeth i’w gweld yn Rheolau Sefydlog 27. Bu Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol yn craffu ar is-ddeddfwriaeth yn y Trydd Cynulliad o dan Reol Sefydlog 15 a gan y Pwyllgor Offerynnau Statudol ar 22 Mehefin 2011.

Is-ddeddfwriaeth sy’n agored i gael ei dirymu

Bydd y rhan fwyaf o is-ddeddfwriaeth yn agored i gael ei dirymu (sef y weithdrefn negyddol). Mae’r ddeddfwriaeth hon yn dod yn weithredol yn awtomatig oni fydd y Cynulliad yn penderfynu ei diddym.

Is-ddeddfwriaeth sy’n agored i gael ei chymeradwyo

Mae rhai mathau o ddeddfwriaeth yn destun cymeradwyaeth (y weithdrefn gadarnhaol) ac mae’n rhaid i’r Cynulliad eu cymeradwyo’n ffurfiol cyn iddynt ddod i rym.u.

Is-ddeddfwriaeth arall

Mae rhai mathau o is-ddeddfwriaeth yn cynnwys deddfwriaeth nad oes unrhyw weithdrefn ffurfiol wedi’i phennu ar ei chyfer ac eithrio’i gosod gerbron y Cynulliad.

Mae rhestr o’r math hwn o is-ddeddfwriaeth i’w gweld yma

.

In this section

  • Torri'r rheol 21 diwrnod

Rhaid gosod darn o is-ddeddfwriaeth gerbron y Cynulliad Cenedlaethol o leiaf 21 diwrnod cyn iddi ddod yn weithredol. Os bydd y rheol hon yn cael ei thorri, rhaid i’r Gweinidog perthnasol hysbysu’r Llywydd o’r rhesymau dros hynny. Mae’r llythyrau hyn i’w gweld Mae’r llythyrau hyn i’w gweld yma..
  • Offerynnau Statudol a wnaed ar y cyd â Gweinidogion y DU

Rhaid i offerynnau a wneir ar y cyd gan Weinidogion Cymru a Gweinidogion y DU a Senedd y DU gael eu gosod gerbron y Cynulliad a Senedd y DU. Mae’r rhain i’w gweld Mae’r rhain i’w gweld yma.

  • Gorchmynion a wneir yn unol â Gweithdrefnau Cynulliad Arbennig

Mae rhai Gorchmynion yn dilyn gweithdrefn arbennig. Ni chaniateir i’r Gweinidog eu gwneud hyd nes y cydymffurfir â’r gweithdrefnau a nodir yn Rheol Sefydlog 28. Mae Rheol Sefydlog 28 yn cynnwys darpariaeth i gyflwyno deisebau i Lywydd y Cynulliad yn erbyn y Gorchymyn gweithdrefn arbennig drafft. Mae gan y Llywydd ganllawiau ysgrifenedig ar gyfer cyflwyno deiseb o’r fath, yma sydd i’w gweld yma.
  • Adroddiadau pwyllgor ar is-ddeddfwriaeth

I weld adroddiadau ar ddarnau o is-ddeddfwriaeth unigol gan y pwyllgor s’n gyfrifol am graffu arnynt ewch i’r lincs a ganlyn: (saesneg yn unig ar hyn o bryd)

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Busnes y Cynulliad
  3. Deddfwriaeth
  4. Is-ddeddfwriaeth

Partneriaid a Help