Caiff trawsgrifiadau o’r Cyfarfod Llawn eu cyhoeddi o fewn 24 awr i ddiwedd y cyfarfod. Ceir crynodeb o fusnes pob cyfarfod yn y Pleidleisiau a Thrafodion, (a gyhoeddir o fewn 30 munud i ddiwedd pob cyfarfod).
O fis Mai 2007 ymlaen, bydd trawsgrifiadau ar gael ar gyfer pob pwyllgor craffu, pwyllgor deddfu a phwyllgor sefydlog sy'n cwrdd yn gyhoeddus. Cyhoeddir drafftiau o fewn pum diwrnod gwaith i’r cyfarfod, a fersiynau terfynol o fewn 10 niwrnod gwaith, a hynny ar safle'r pwyllgor perthnasol.