Y Trydydd Cynulliad (2007 - 2011)
Deddfwriaeth
Cafodd pwerau deddfu newydd eu rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar ddechrau’r Trydydd Cynulliad ym mis Mai 2007. Darparwyd ar gyfer y pwerau newydd hyn yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006, sy’n galluogi’r Cynulliad i basio deddfwriaeth, a elwir yn Fesurau’r Cynulliad, yn y meysydd y mae ganddo gymhwysedd deddfwriaethol.
Mae gwybodaeth am ddeddfwriaeth a ystyriwyd yn ystod y Trydydd Cynulliad ar gael yn
Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol a Mesurau'r Trydydd Cynulliad
Cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad
Mae’r meysydd y mae gan y Cynulliad gymhwysedd deddfwriaethol ynddynt ar hyn o bryd wedi’u nodi yn Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.Gellir gweld cyfres o Nodiadau Tracio Pwerau’r Cynulliad sy’n dangos cymhwysedd deddfwriaethol presennol y Cynulliad, ynghyd â nodiadau sy'n tracio ychwanegiadau at Atodlen 5 (ychwanegiadau a gymeradwywyd ac ychwanegiadau arfaethedig) yn fan hyn: Nodiadau Tracio Pwerau'r Cynulliad.
