Pwyllgorau
Mae gan bwyllgorau’r Cynulliad nifer o swyddogaethau, gan gynnwys craffu ar wariant a pholisïau Llywodraeth Cymru, dwyn y Gweinidogion i gyfrif, ac archwilio deddfau arfaethedig.
Rhestr o bwyllgorau’r Cynulliad
Canfyddwch enwau a chylch gwaith y pwyllgorau.
Cyfarfodydd pwyllgor
Cewch gwybod pryd mae’r pwyllgorau yn cyfarfod
Ymchwiliadau Pwyllgorau
Yma, edrychwch ar y rhestr lawn o ymchwiliadau’r pwyllgorau, gan gynnwys manylion ynghylch lle mae ymchwiliadau wedi cyrraedd.
Pwy sy’n eistedd ar bwyllgor?
Yn y Cynulliad, mae pwyllgor yn cynnwys Aelodau Cynulliad o wahanol grwpiau plaid sydd wedi’u penodi i gydweithio i ymgymryd â gwaith manwl ac i wneud swyddogaethau penodol. Canfyddwch fwy am y broses hon ac am aelodaeth y pwyllgorau.
Cymryd rhan - mynd i gyfarfod pwyllgor
Mae croeso i’r cyhoedd eistedd yn yr oriel gyhoeddus i wylio cyfarfod pwyllgor. Mae cyfleusterau ar gael i bobl sydd ag anableddau. Canfyddwch fwy am fynd i gyfarfod pwyllgor.
Cymryd rhan - cofrestrwch i fod yn arbenigwr ar bwyllgor
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnig cyfle i arbenigwyr ac ymchwilwyr gyflwyno’u henwau i gael eu hystyried ar gyfer contractau ymchwil tymor byr posibl yn y dyfodol.
