Cynulliad Cenedlaethol Cymru Caffael
Ein dull o gynnal busnes
Ein Gwerthoedd
Rydym yn dymuno i’n gwasanaeth caffael fod yn wasanaeth o’r radd flaenaf - yn fodern, yn effeithlon ac yn gymdeithasol gyfrifol;
Rhoddwn gynaliadwyedd wrth wraidd popeth a wnawn;
Ein nod yw cyflwyno gwasanaethau sydd yn diwallu i’r eithaf ddisgwyliadau cyfiawn Aelodau’r Cynulliad a’r cyhoedd;
Rydym wrthi’n datblygu ffyrdd cyflenwi amrywiol a byddwn yn helpu cyflenwyr bychain i gystadlu;
Mynnwn sicrhau gwerth arian y trethdalwyr - ond nid drwy brynu’n rhad yn unig;
Wrth drafod ein cyflenwyr a’r cyhoedd, byddwn yn hollol agored ac arddelwn y safonau proffesiynol uchaf posibl;
Byddwn yn sicrhau bod ein prosesau i gyd yn arddel amrywiaeth a chydraddoldeb.
Ein Cyflenwyr
Disgwyliwn ichi rannu’n dymuniadau i ddarparu nwyddau a gwasanaethau o safon uchel i Aelodau’r Cynulliad ac i bobl Cymru.
Arian y trethdalwr yw’r arian a wariwn, felly mae’n rhaid ichi gynnig gwerth da am arian - nid pris rhad yn syml ond adlewyrchiad cytbwys o ansawdd yr eitem a’r gost wedi’i hasesu dros oes yr eitem.
Disgwyliwn ichi rannu gweledigaeth y Cynulliad ar gyfer dyfodol Cymru drwy ddangos eich bod yn gallu gweithredu’n gynaliadwy. Byddwch yn ein helpu ni i wella canlyniadau amgylcheddol a chymdeithasol ein contractau gan barchu a hyrwyddo amrywiaeth yn eich gweithlu a’ch cyflenwyr.
Byddwn ninnau’n cydweithredu â chi i sefydlu disgwyliadau a safonau pendant, i weithio’n rhesymol ac i gyfathrebu’n agored.
Ein nod yw bod yn gwsmer delfrydol ichi.
Sut i gynnig am gontract gyda’r Cynulliad
Hysbysebir unrhyw gontract yr amcangyfrifir ei fod â gwerth o dros £25,000 ar GwerthwchiGymru
Os oes gennych ddiddordeb mewn cynnig am ein busnes awgrymwn yn gryf eich bod yn cofrestru gyda GwerthwchiGymru.
Bydd GwerthwchiGymru yn anfon e-bost pan ddaw cyfle priodol ar gyfer contract. Byddwch yn cael gwybod nid yn unig am gyfleoedd gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru ond gyda chyrff eraill yn y sector cyhoeddus. Mae’r gwasanaeth hwn yn hollol rad ac am ddim ac yn hanfodol i’ch busnes os oes gennych ddiddordeb mewn contractau yn y sector cyhoeddus.
Darllenwch hefyd ein Canllaw Cyflym wrth gynnig am gontract gyda’r Cynulliad.
Busnesau Bach a Chanolig
Rydym am wneud busnes â busnesau bach a chanolig a deallwn y gall rhwystrau ei gwneud yn anodd i fusnesau bach a chanolig dendro yn effeithiol.
Gweler yma ein polisi ar wneud busnes â busnesau bach a chanolig. Dywed beth sydd i’w ddisgwyl oddi wrthym a beth a ddisgwyliwn ni oddi wrthych chi.
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau am y polisi hwn cysylltwch â Raz Roap ar 029 20 89 8607
Hoffem glywed eich syniadau
Wrth geisio gwella, rydym bob amser yn barod i wrando ar eich syniadau chi. Rhowch ganiad i ni ar 029 2082 1832
