System Ddeisebu Cynulliad Cenedlaethol Cymru - Canllawiau
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gyfrifol am ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwaith ac ar y ffordd y mae’n gwario arian cyhoeddus.
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi ymrwymo i ymgysylltu fwyfwy â phobl Cymru. Rydym am i chi wybod sut y mae ein dulliau agored a hygyrch o weithio’n galluogi pobl Cymru i ddylanwadu’n uniongyrchol ar atebolrwydd y llywodraeth.
Un ffordd y gall pobl Cymru wneud yn siwr bod y Cynulliad Cenedlaethol yn gwybod am broblemau sy’n effeithio arnynt yw drwy’r system ddeisebu. Gallwch hefyd wneud yn siwr bod Aelodau’r Cynulliad yn clywed eich barn drwy gyfrannu at ymchwiliadau pwyllgorau eraill; pan fyddwn yn craffu ar ddeddfwriaeth; neu drwy anfon e-bost at Aelodau’n uniongyrchol drwy’r lincs ar ein gwefan.
Pa bynciau y gellir eu trafod drwy’r bro
ses ddeisebu?
Gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru drafod unrhyw bwnc sy’n effeithio ar Gymru neu ar bobl Cymru; nid oes ganddo unrhyw bwerau, fodd bynnag, yng nghyswllt materion a gadwyd yn ôl gan Lywodraeth y DU.
Ar hyn o bryd, mae gan y Cynulliad Cenedlaethol pwerau sylweddol yn y meysydd polisi a ganlyn:
Amaethyddiaeth, pysgodfeydd, coedwigoedd a datblygu gwledig
Henebion ac adeiladau hanesyddol
Diwylliant
Datblygu economaidd
Addysg a hyfforddiant
Yr amgylchedd
Y gwasanaeth tân ac achub a hyrwyddo diogelwch tân
Bwyd
Iechyd a’r gwasanaethau iechyd
Priffyrdd a thrafnidiaeth
Tai
Llywodraeth leol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Gweinyddiaeth gyhoeddus
Lles cymdeithasol
Chwaraeon a hamdden
Twristiaeth
Cynllunio gwlad a thref
Dŵr ac amddiffyn rhag llifogydd
Y Gymraeg
Sut mae proses Ddeisebu’r Cynulliad Cenedlaethol yn gweithio?
Cyflwyno’ch deiseb
Rydym yn derbyn deisebau ysgrifenedig, ac yn annog pobl i ddefnyddio’n system e-ddeisebu. Mae’n rhaid ystyried pob deiseb i weld a yw’n dderbyniadwy yn ôl y rheolau sydd wedi’u gosod allan yn Rheolau Sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol. Os byddwch chi’n defnyddio’r system e-ddeisebu, bydd angen i chi gyflwyno geiriad y ddeiseb cyn y cewch ei rhoi ar y wefan i bobl ei llofnodi’n electronig.
Os ydych am i ni roi’ch deiseb ar ein gwefan, rhaid iddi gydymffurfio â’n hamodau a'n telerau, a rhaid iddi ofyn i’r Cynulliad Cenedlaethol wneud rhywbeth sydd o fewn ei bwerau. Cysylltwch â Chlerc y Pwyllgor Deisebau i gael cyngor a chymorth mewn perthynas â chwmpas a geiriad eich deiseb.
Ni fyddwn yn gallu derbyn deisebau sy’n cynnwys y canlynol neu sy’n gofyn i’r Cynulliad ystyried y canlynol:
Ymyrryd mewn penderfyniadau gweithrediadol neu waith awdurdodau lleol gan gynnwys penderfyniadau cynllunio
Dyfarnu ar fater personol neu fasnachol (swyddogaeth llys neu dribiwnlys yw hon)
Materion sy’n
sub judice
(yn ddarostyngedig i achosion llys)Iaith ddifenwol neu sarhaus (dylid osgoi enwi unigolion)
Materion sydd wedi’u trafod eisoes (neu sy’n debyg iawn i faterion a drafodwyd eisoes) lai na blwyddyn yn ôl gan yr un person/corff corfforaethol
Os penderfynir nad yw deiseb yn dderbyniadwy, bydd Clerc y Pwyllgor yn cynghori'r prif ddeisebwr i egluro pam. Byddwn yn falch o roi cymorth a chyngor i chi o ran sicrhau bod eich deiseb yn dderbyniadwy. Dyna pam y mae’n bwysig iawn cysylltu â'r Tîm Deisebau cyn i chi ddechrau casglu llofnodion.
Beth sy’n digwydd i ddeiseb sy’n dderbyniadwy?
Mae’r wybodaeth isod yn cyfeirio at y broses yn ystod y Trydydd Cynulliad 2007-11.
Cam 1: yr ysgrifenyddiaeth yn ei hasesu
Ar ôl cyflwyno’r ddeiseb, bydd Clerc y Pwyllgor yn ei hasesu ac yn ystyried y pwnc dan sylw. Mae’n bosibl y bydd yn cysylltu â’r prif ddeisebwr i gael rhagor o wybodaeth gefndir. Ar yr un pryd, gall y tîm deisebau baratoi nodiadau briffio i roi cyd-destun polisi a chyd-destun cyfreithiol.
Cam 2: y pwyllgor yn ei thrafod
Yna caiff y ddeiseb ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau - pwyllgor penodol sy’n cynnwys Aelodau’r Cynulliad sy’n cynrychioli holl bleidiau gwleidyddol y Cynulliad Cenedlaethol. Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod bob pythefnos pan fydd y Cynulliad yn eistedd. Mae’n trafod deisebau newydd ac yn penderfynu sut i fwrw ymlaen â deisebau a gyflwynwyd eisoes.
Bydd deisebau’n cael eu cyflwyno i’r pwyllgor yn y drefn y cânt eu derbyn, oni bai fod rheswm dilys i’w trafod ynghynt.
Dyma’r camau arferol y gall y pwyllgor eu cymryd pan fydd yn trafod deiseb am y tro cyntaf:
Gofyn am wybodaeth ychwanegol gan y deisebwyr, Gweinidogion Llywodraeth y Cynulliad neu unrhyw gorff perthnasol eraill naill ai’n ysgrifenedig neu’n drwy gyflwyniad i’r Pwyllgor.
Cyfeirio’r ddeiseb at bwyllgor arall, y Llywodraeth/Gweinidog neu unrhyw gorff perthnasol arall.
Gall y pwyllgor hefyd benderfynu cau’r ddeiseb a pheidio â chymryd unrhyw gamau pellach.
Os gofynnwyd am ragor o wybodaeth, bydd y pwyllgor yn trafod y ddeiseb eto ar ôl cael y wybodaeth honno. Weithiau bydd y pwyllgor yn penderfynu ar y camau i’w cymryd heb ofyn am gyflwyniad llafar na rhagor o wybodaeth ysgrifenedig.
Roedd y camau eraill a gymerodd y pwyllgor yn cynnwys:
ceisio gwybodaeth a barn gan Lywodraeth Cymru,
naill ai’n ysgrifenedig neu ar lafar;
ceisio gwybodaeth a barn gan sefydliadau eraill a all fod â barn neu ddiddordeb yn y ddeiseb, er enghraifft, cyrff proffesiynol, awdurdodau lleol, byrddau iechyd, undebau llafur, grwpiau cymunedol neu unrhyw un arall y teimlwn y gall ychwanegu gwerth i’n hystyriaethau;
gofyn am ragor o wybodaeth gan y deisebwyr naill
ai’n ysgrifenedig neu fel rhan o sesiwn dystiolaeth
i’r Pwyllgor;
mynd ar ymweliad â’r safle;
cyfeirio’r ddeiseb at bwyllgorau eraill y Cynulliad neu sefydliadau allanol ;
cael gwybodaeth ymchwil a chyfreithiol wedi’i pharatoi i’n helpu i ddeall y mater yn well; a
chynnal ymchwiliad pwyllgor.
Beth yw’r canlyniadau posibl?
Gall y canlyniadau amrywio, gan ddibynnu ar y camau y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu eu cymryd.
Mae’r system ddeisebu’n ddefnyddiol iawn os ydych am godi proffil mater nad oedd ar yr agenda wleidyddol o’r blaen. Gallai hyn arwain at:
ymchwiliad i’r mater gan un o bwyllgorau deddfwriaethol neu bwyllgorau craffu’r Cynulliad Cenedlaethol;
Aelodau Cynulliad unigol yn ymgymryd â’r mater eu hunain, er enghraifft, drwy ofyn cwestiynau i Weinidogion neu drwy ofyn am amser i drafod y mater yn y Cynulliad.
Yn y pen draw, mae hyn yn rhoi cyfle i ddeisebwyr:
ddylanwadu ar y broses o ddatblygu deddfwriaeth newydd
cynnig newidiadau ym mholisïau’r llywodraeth neu ym mholisi corff cyhoeddus arall.
Am ragor o wybodaeth am waith y pwyllgor cliciwch yma.
