Y Pierhead
Oriau agor y Pierhead:
10.30 – 16.30, saith diwrnod yr wythnos (bydd y mynediad olaf 30 munud cyn cau'r adeilad).
Mynediad
Gall aelodau’r cyhoedd gael mynediad i’r Pierhead drwy’r brif fynedfa ar flaen yr adeilad, sy’n wynebu’r bae. Gall ymwelwyr sydd angen cymorth o ran symudedd ddefnyddio’r cadeiriau olwyn sydd wedi’u darparu ar eu cyfer yn yr adeilad.
Lifftiau
Mae modd defnyddio’r lifftiau neu’r grisiau i gael mynediad at holl fannau cyhoeddus y Pierhead.
Seddi
Mae seddi ar gael ar gyfer y cyhoedd yn holl fannau cyhoeddus y Pierhead.
Cyfleusterau ar gyfer pobl sydd â phlant ifanc
Gellir defnyddio pramiau ac ati yn holl fannau cyhoeddus yr adeilad.
Gwybodaeth
Mae staff ar gael yn y dderbynfa i roi gwybodaeth ac i ateb cwestiynau. Mae amryw o gyhoeddiadau ar gael hefyd.
Cyfleusterau cyhoeddus
Mae toiledau cyhoeddus ar gael ar y llawr gwaelod ac ar yr ail lawr, ac maent yn hygyrch i aelodau’r cyhoedd.
Ail-agoriad y Pierhead 2010
