Polisi Preifatrwydd
Mae’r dudalen hon yn esbonio sut y bydd unrhyw wybodaeth a roddir i ni yn cael ei defnyddio a’n dulliau o sicrhau eich preifatrwydd.Pa wybodaeth a gesglir?
Rydym yn casglu’r mathau a ganlyn o wybodaeth gan bobl sy’n defnyddio’r wefan:- gwybodaeth gofrestru ar gyfer fforymau a thanysgrifio;
- ymholiadau ac adborth cyffredinol;
- gwybodaeth am ddefnyddio’r safle (o’r cwcis sesiwn, javascript a’r ffeiliau log).
- adborth drwy drafodaethau;
- gwybodaeth sy’n ymwneud â cheisiadau am swyddi.
Deddf Diogelu Data 1998
Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn gennych yn cael ei thrin o dan delerau’r Ddeddf Diogelu Data. Ni fyddwn yn trosglwyddo eich manylion personol i unrhyw drydydd parti nac i adrannau’r llywodraeth oni bai eich bod yn rhoi caniatâd i ni wneud hynny. Rydym yn defnyddio technolegau blaengar a meddalwedd amgryptio i ddiogelu eich data, ac rydym yn defnyddio safonau diogelwch llym i gyfyngu ar nifer y bobl y caniateir iddynt weld y wybodaeth.Gwybodaeth gofrestru
Bydd angen i ddefnyddwyr gofrestru er mwyn:- defnyddio’r gwasanaethau tanysgrifio ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
- anfon cais am swydd drwy’r wefan;
- cymryd rhan yn y fforymau trafod (er bod modd i bawb weld cynnwys pob fforwm).
Ymholiadau ac adborth cyffredinol
Rydym yn croesawu eich sylwadau. Os byddwch yn cysylltu â ni i ofyn am wybodaeth, efallai y bydd yn rhaid i ni gysylltu ag erailli gael gafael ar y wybodaeth honno. Os na all Cynulliad Cenedlaethol Cymru ateb eich ymholiad, byddwn yn cysylltu â chi ac efallai byddwn yn anfon yr ymholiad i’r sefydliad perthnasol. Os yw eich cwestiwn yn dechnegol, efallai y bydd yn rhaid i ni ei anfon at ein cyflenwyr technoleg. Nifyddwn yn rhoi eich gwybodaeth bersonol i unrhyw un wrth ddelio â’ch ymholiad, oni baieich bodwedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny. Ar ôl i ni ateb eich ymholiad,byddwn yn cadw cofnod o’ch neges at ddibenion archwilio.Gwybodaeth am ddefnyddio’r safle
Cwcis
Darnau o ddata yw cwcis sy’n cael eu creu yn aml pan fyddwch yn defnyddio gwefan, a chânt eu storio yn y cyfeiriadur cwcis ar eich cyfrifiadur eich hun. Defnyddir cwcis i storio rhif adnabod sesiwn sy’n eich galluogi i logio mewn a defnyddio nodweddau'r wefan fel Fforymau trafod ac e-Ddesebau. Defnyddir cwcis er mwyn casglu ystadegau sy'n ymwneud â ymwelwyr i'r wefan. Nid ydynt yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch.Javascript
Er mwyn darganfod sut mae'n wefan yn cael ei ddefnyddio, rydym yn treialu'r meddalwedd Tynt Tracer. Mae'r meddalwedd hon yn defnyddio Javascript er mwyn recordio pryd mae defnyddwyr yn copio a gludo o'r wefan. Defnyddir y gwybodaeth er mwyn gwella'r cynnwys sydd ar y wefan.
Ffeiliau log
Mae ffeiliau log yn gadael i ni gofnodi’r defnydd a wneir o’r safle. Nid yw ffeiliau log yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol na gwybodaeth am y gwefannau eraill rydych wedi’u defnyddio.E-fforwm - trafodaethau
Caiff yr holl sylwadau eu darllen a’u safoni a gellir eu dileu os ydynt yn torri’r telerau defnyddio. Pan fyddwch yn anfon sylwadau i’r Fforwm Trafod, gall unrhyw un sy’n defnyddio’r wefan eu gweld. Bydd eich enw defnyddiwr cofrestredig yn ymddangos ger eich sylwadau.Gwneud cais am swydd – diogelu data a phreifatrwydd
O dan y Ddeddf Diogelu Data, mae'n ddyletswydd gyfreithiol arnom i ddiogelu unrhyw wybodaeth rydym yn ei chasglu gennych. Bydd y wybodaeth a gesglir ac a brosesir mewn perthynas â'ch cais yn cael ei thrin yn unol â darpariaethau’r statudau a’r rheoliadau sydd mewn grym ar hyn o bryd e.e. Deddf Diogelu Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, a byddant yn ddarostyngedig iddynt. Ni fyddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir gennych at unrhyw ddiben heblaw i brosesu eich cais ac, os bydd hwnnw’n llwyddiannus, fel rhan o’ch cyflogaeth. O fewn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, dim ond y rhai hynny sydd angen y wybodaeth at y dibenion hynny fydd yn cael ei gweld. Gall y wybodaeth fod yn destun cais gan aelod o'r cyhoedd. Wrth ymateb i geisiadau o'r fath efallai y bydd yn rhaid i ni ryddhau'r wybodaeth honno. Fodd bynnag, byddwn yn ymateb i geisiadau o'r fath yn unol â’r canllawiau yng Nghod Ymarfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth.Tanysgrifio ar gyfer negeseuon e-bost
Mae rhai rhannau o’r wefan hon yn cynnig y wybodaeth ddiweddaraf drwy’r e-bost. I dderbyn y wybodaeth hon, bydd angen i chi gofrestru gan nodi eich cyfeiriad e-bost; enw defnyddiwr a chyfrinair. Nid ydym yn rhannu’r wybodaeth a ddarperir gennych â thrydydd partïon, ac rydym yn diogelu’r wybodaeth yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data.Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn cysylltu â safle arall?
Nid yw’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i’r gwefannau eraill y mae cyswllt iddynt o’r wefan hon. Mae ein tudalennau yn cynnwys cysylltiadau â gwefannau eraill, sef adrannau’r llywodraeth a sefydliadau eraill. Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i’n gwefan ni yn unig, felly dylech bob amser fod yn ymwybodol, wrth symud i safle arall, bod angen darllen datganiad preifatrwydd unrhyw safle sy’n casglu gwybodaeth bersonol. Ni fyddwn yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth bersonol a roddwyd i ni i unrhyw safle arall.Mynediad i’ch gwybodaeth a chysylltu â ni
Gallwch newid eich manylion personol unrhyw bryd drwy gofrestru, dilyn y linc ‘Manylion personol’ ar yr ochr dde ar frig y dudalen, a chlicio ar ‘diweddaru fy manylion personol’ ar y dudalen ‘manylion personol’. Gallwch ofyn i ni ddileu eich manylion unrhyw bryd. Cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’r ffurflen adborth. Os hoffech weldcofnod o unrhyw ohebiaeth rydych wedi'i hanfon atom, neu osbydd gennych ymholiad neu gw^yn am y polisi preifatrwydd hwn neu am y wefan hon neu os ydych am ddileu eich manylion, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’r ffurflen adborth.Newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn
Os bydd y polisi preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn rhoi’r fersiwn ddiweddaraf ar y dudalen hon. Drwy ymweld â’r dudalen hon yn rheolaidd, byddwch yn ymwybodol o'r wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth honno ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn yn ei rhannu â phartïon eraill.Diweddarwyd ar 8 Medi 2009
