Telerau ac Amodau
Safleoedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw assemblywales.org, cynulliadcymru.org a senedd.tv a gyhoeddir ac a reolir gan Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel 'Ni’ . Wrth gysylltu â’n safle ar y we rydych chi fel defnyddiwr 'Chi’ yn derbyn ein Amodau a Thelerau.
Mae safleoedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y we a’i safleoedd cysylltiedig yn cael eu cynnal ar gyfer eich defnydd personol. Bydd y mynediad a’r defnydd o’r Amodau a Thelerau hyn mewn grym o’r dyddiad y’i defnyddir am y tro cyntaf.
Datganiad o Hawlfraint
Cafodd y rhan fwyaf o’r deunydd sy’n ymddangos ar y safle hwn ei lunio o dan gyfarwyddyd neu reolaeth Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac felly caiff ei ddiogelu gan hawlfraint y Comisiwn. Gellir atgynhyrchu’r deunydd a ddiogelir gan hawlfraint Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng heb fod angen gofyn am ganiatâd penodol. Mae hyn ar yr amod bod y deunydd yn cael ei atgynhyrchu’n gywir ac nid mewn cyd-destun camarweiniol. Pan gaiff unrhyw un o’r eitemau ar y safle hwn ac sydd o dan hawlfraint Seneddol ei hailgyhoeddi neu ei chopïo ar safleoedd eraill, mae’n rhaid enwi ffynhonnell y deunydd a chydnabod y statws hawlfraint. Mae Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn fodlon hefyd i ddefnyddwyr greu cysylltiadau hyperdestun â’r safle hwn.
Mae rhai o’r deunyddiau sy’n ymddangos ar y safle hwn yn atgynhyrchu deunydd a gyflwynwyd i’r Cynulliad gan drydydd partïon mewn perthynas â busnes y Cynulliad a chânt eu diogelu gan hawlfraint y trydydd partïon hynny. Nid yw’r hawl i atgynhyrchu deunydd hawlfraint y Comisiwn yn ymestyn i ddeunydd hawlfraint trydydd parti. Cyn atgynhyrchu deunydd hawlfraint y trydydd parti, mae’n rhaid i chi fodloni’ch hun bod gennych hawl i wneud hynny heb dorri rheolau hawlfraint. Pan nad oes gennych hawl i atgynhyrchu deunydd o’r fath, mae’n rhaid i chi gael awdurdod y deiliad/deiliaid hawlfraint o dan sylw cyn atgynhyrchu’r deunydd.
Logos
Marciau perchnogol Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol yw enwau, delweddau a logos adnabod Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ni chaniateir copïo neu ddefnyddio logo Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac/neu logos unrhyw barti arall a geir atynt trwy’r safle hwn ar y we heb ganiatâd gan y perchennog hawlfraint perthnasol ymlaen llaw. Dylid cyfeirio ceisiadau am gael defnyddio logo Cynulliad Cenedlaethol Cymru at
Pennaeth Gwybodaeth i'r Cyhoedd
Cynulliad Cenedlaethol
Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA
Llinell Gwybodaeth: 029 2089 8200
E-bost: Webmaster@cymru.gsi.gov.uk
Dywedwch wrthym pam a sut yr ydych am ddefnyddio’n logos. Nodwch eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn, rhif ffacs ac e-bost.
Gor-gysylltu â ni yn cynulliadcymru.org
Nid oes yn rhaid i chi ofyn am ganiatâd i gysylltu’n uniongyrchol â thudalennau ar y safle hwn. Ni ydym yn gwrthwynebu i chi gysylltu’n uniongyrchol â’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys ar ein safle. Er hynny, byddai’n well gennym pe na bai’n tudalennau’n cael eu llwytho i fframiau ar eich safle. Dylai tudalennau Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael eu llwytho i ffenestr gyflawn y defnyddiwr. Os ydych am lwytho tudalennau o fewn fframiau cysylltwch â gwefeistr@cynulliadcymru.org
Perchnogion porthol
Os ydych am gynnwys tudalennau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y we o fewn safle porthol cysylltwch â gwefeistr@cynulliadcymruorg. Nodwch eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn, rhif ffacs ac e-bost a disgrifiad o’ch safle porthol.
O’r safle hwn ar y we.
Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys neu ddibynadwyedd y safleoedd cysylltiedig. Nid yw cynnwys safleoedd ar restr yn gyfystyr â chymeradwyaeth o unrhyw fath. Ni allwn roi sicrwydd y bydd y cysylltiadau hyn yn gweithio drwy’r amser ac nid oes gennym reolaeth dros ddilysrwydd tudalennau cysylltiedig.
Diogelwch rhag firysau
Byddwn yn gwneud pob ymdrech i archwilio a phrofi pob deunydd ym mhob cyfnod o’r broses gynhyrchu. Mae’n syniad doeth i chi redeg rhaglen gwrth-firws ar bob deunydd a lwythir i lawr o’r Rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, ymyrraeth neu niwed i’ch data neu’ch system gyfrifiadur a all ddigwydd tra’n defnyddio deunydd oddi ar safleoedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y we.
Telerau ac Amodau (Rheolau Trafod ar y We)
Wrth gymryd rhan yn ein hymgynghoriadau ar-lein, rydych yn cytuno i’n telerau a’n hamodau. Dyma rai rheolau yr hoffem i chi eu dilyn:
Cofiwch:
Fod yn gwrtais wrth anfon eich sylwadau;
Anfonwch eich sylwadau yn Gymraeg neu’n Saesneg ar y wefan briodol.
Ni fyddwn yn cyfieithu’r sylwadau, ac mae'n bosib y bydd y cymedrolwr yn symud sylwadau i'r wefan briodol.
Ceisiwch osgoi:
Anfon manylion personol (gan gynnwys eich manylion personol chi)
Dynwared person arall neu honni ar gam eich bod yn cynrychioli grwp neu sefydliad
Rhegi neu wneud sylwadau anweddus
Sarhau, bygwth neu bryfocio unrhyw un arall neu unrhyw grwp arall
Anfon unrhyw beth a allai dorri’r gyfraith (e.e. torri hawlfraint, honiadau enllibus, dirmyg llys,)
Defnyddio’r safle i hysbysebu unrhyw gynnyrch masnachol
Bydd ein cymedrolwyr yn dileu rhan o neges neu neges gyfan os teimlant ei bod yn torri unrhyw un o’r rheolau hyn, ac efallai y cewch eich atal rhag anfon unrhyw gyfraniadau pellach. Os ydych yn pryderu bod eich neges yn torri’r rheolau neu ei bod yn amhriodol mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â ni i gael cyngor.
Byddwn yn gwneud pob ymdrech i ystyried eich sylwadau mor gyflym â phosibl ac os byddwn yn dod ar draws problem, byddwn yn dileu’r neges cyn gynted â phosibl.
Cofiwch hefyd, trwy gymryd rhan:
Rydych yn rhoi indemniad i Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru rhag unrhyw golledion, hawliadau, gorchmynion, difrod neu dreuliau a honnwyd gan unrhyw drydydd parti oherwydd eich neges, sy’n deillio o’ch neges neu sydd mewn cysylltiad â’ch neges.
Rydych yn rhoi i Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ganiatâd rhydd o freindal a chaniatâd di-alw’n-ôl i atgynhyrchu unrhyw ddeunydd yr ydych yn ei anfon.
Ymwadiad
Mae gwybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau safle Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y we (neu wybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau trydydd parti) yn cael eu darparu 'fel y maent’ heb unrhyw gynrychiolaeth neu gymeradwyaeth a heb warant o unrhyw fath, boed yn ddiamwys neu’n oblygedig, yn cynnwys ond heb eu cyfyngu i warantau goblygedig o ansawdd boddhaol, addasrwydd ar gyfer pwrpas penodol, heb dor cyfraith, cyfaddasrwydd, diogelwch a chywirdeb. Nid ydym yn rhoi sicrwydd y bydd y swyddogaethau yn y deunydd ar y safle hwn yn ddi-dor neu heb gamgymeriadau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, neu y bydd y safle hwn neu’r gweinyddwr sy’n sicrhau bod y safle ar gael yn rhydd rhag firysau neu’n cynrychioli ymarferoldeb, cywirdeb, dibynadwyedd llawn y deunyddiau. Ni fyddwn dan unrhyw amgylchiadau yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod, heb gyfyngiadau, colled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol, neu unrhyw golled neu ddifrod o unrhyw fath a ddaw o ddefnyddio neu fethu defnyddio data, neu elw, sy’n deillio neu sy’n gysylltiedig â’r defnydd o safleoedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y we.
Bydd yr Amodau a Thelerau hyn yn cael eu rheoli a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy’n codi dan Amodau a Thelerau hyn yn ddarostyngedig i awdurdod neilltuedig llysoedd Cymru a Lloegr.
