Cyflogau, Pensiynau a Lwfansau Aelodau
Cyhoeddi Lwfansau Aelodau
I archebu fersiwn printiedig o'r adroddiad, anfonwch ebost at independentreviewpanel@wales.gov.uk
Gall unrhyw un ddefnyddio system gyhoeddi’r Cynulliad i weld y lwfansau a’r treuliau y bydd Aelodau’r Cynulliad yn eu hawlio:
Lwfans Costau Swyddfa (hy costau’n ymwneud â’u dyletswyddau fel Aelodau Cynulliad)
Lwfansau Costau Ychwanegol (hy y gost o aros dros nos oddi cartref i gyflawni’u dyletswyddau fel Aelodau Cynulliad)
Lwfans Costau Teithio (hy costau teithio Aelodau Cynulliad wrth gyflawni’u dyletswyddau fel Aelodau Cynulliad)
Caiff y treuliau eu rhestru’n ôl y mis y cawsant eu hawlio, nid yn ôl dyddiad y gwariant. Ffigyrau dros dro ydynt gan y byddant yn cael eu harchwilio’n allanol maes o law.
Yn unol â Gorchymyn Rhyddid Gwybodaeth (Y Senedd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru) 2008, nid yw’r wybodaeth a ganlyn wedi’i chyhoeddi:-
gwybodaeth yn ymwneud â chyfeiriad preswyl Aelod Cynulliad;
trefniadau teithio rheolaidd Aelod Cynulliad (ac eithrio faint y mae’n teithio)
enw unrhyw un sydd wedi cael cyfeiriad preswyl Aelod Cynulliad drwy gysylltiadau masnachol ag ef neu hi.
Mae’n bosibl y caiff manylion personol eu heithrio os ystyrir y byddant yn mynd yn groes i unrhyw un o egwyddorion Deddf Diogelu Data 1998. Mewn achosion o’r fath, mae’r eitem wedi’i hepgor o’r rhestr ac mae’r cyfanswm a hawliwyd wedi’i addasu’n unol â hynny.
- System Cyhoeddi Lwfansau Aelodau - Chwilio’r Gronfa Ddata
(yn agor mewn ffenestr newydd)

