Grwp Trawsbleidiol ar Bioamrywiaeth

Cadeirydd

Pwrpas

Yn 2001, gosodwyd targed Llywodraeth Cynulliad Cymru, ynghyd ag arweinwyr Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd, i atal colli bioamrywiaeth erbyn 2010. Erbyn hyn, fe’i cydnabyddir yn gyffredinol na chyflawnwyd yr ymrwymiad uchelgeisiol hwn a’n bod yn parhau i golli bioamrywiaeth ar raddfa frawychus.

Mae’r broses o warchod bioamrywiaeth o fudd i gymdeithas: mae’n darparu adnoddau i gynnal a gwella ein hiechyd; mae’n cynnig cyfleoedd addysgol; mae’n cyfrannu at y gwaith o adfywio cymunedau ac yn cefnogi ac yn hyrwyddo gweithgaredd economaidd drwy swyddi a thwristiaeth werdd. Yn ogystal â’r nifer  o resymau ymarferol dros warchod bioamrywiaeth, mae hefyd achos moesegol cryf iawn dros warchod mathau eraill o fywyd sy’n rhannu’r blaned hon â ni.

Bydd y grŵp yn ceisio codi proffil bioamrywiaeth yng Nghymru a chael cefnogaeth gwleidyddion a’r pedair prif blaid, a fydd yn hyrwyddo achos bywyd gwyllt Cymru yn y Cynulliad.

Cyfarfod nesa

18.00 - 19.30 18 Ionawr 2011
Ystafelloedd Gynadledda C a D, Tŷ Hywel
Thema’r cyfarfod yw Glastir.

  • Arfon Williams, RSPB

  • Sue Evans, Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad

  • Calum MacIntosh, BTCV

Yr Aelodau Cynulliad a Sefydlodd y Grwp

  • Nick Ramsay; AC

  • Angela Burns; AC

  • Alun Davies; AC

  • Christopher Franks; AC

  • Mick Bates, AC

Aelodau Eraill

  • Cyswllt Amgylchedd Cymru

Pwynt Cyswllt

Yn yr adran hon

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Aelodau'r Cynulliad

Partneriaid a Help