Grwp Trawsbleidiol ar yr Amgylchedd Adeiledig yng Nghymru
Cadeirydd
Jeff Cuthbert
ebost Jeff Cuthbert
Pwrpas
Bydd y grwp yn ceisio hyrwyddo dealltwriaeth ymysg Aelodau Cynulliad a grwpiau perthnasol eraill ynghylch y sector amgylchedd adeiledig yng Nghymru, i sicrhau bod gan Gymru ddiwydiant adeiladu o’r radd flaenaf sy’n darparu gwerth gorau i’w gleientiaid, amgylchedd diogel ar ei safleoedd a llwybr gyrfa a rhagolygon cyflogaeth priodol i’w bobl.
Cyfarfod Blaenol
28ain Ebrill 2010 - bu’r Grwp yn trafod rhaglenni cymorth i fusnesau ar gyfer y sector amgylchedd adeiledig, yn cynnwys ProAct, ReAct a Chymorth Hyblyg i Fusnes.
20 Hydref 09 - Trafododd y grwp gynaliadwyedd ac effaith datganoli arfaethedig y rheoliadau adeiladu ar y sector a’r gwaith da a gaiff ei wneud eisoes gan y sector o ran datblygu sgiliau ar gyfer gweithredu Lefel Cod 3-5.
7 Mai 09 - Trafododd y Grwp weithdrefnau caffael yn y sector amgylchedd adeiledig a phenderfynodd ysgrifennu at Weinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ein penderfyniadau.
5 Mawrth 09: Cyfarfod cyntaf y Grwp
Ffurfioli cylch gorchwyl y grwp a thrafod amrywiaeth o faterion o’r papur ar ei brif themâu Cytunodd y Grwp drafod buddsoddiad cyfalaf a chaffael yn y sector cyhoeddus yn y cyfarfod nesaf.
Yr Aelodau Cynulliad a Sefydlodd y Grwp
Jeff Cuthbert AC
Joyce Watson AC
Janet Ryder AC
Gareth Jones AC
David Melding AC
Paul Davies AC
Jenny Randerson AC
Mick Bates AC
Aelodau Eraill
Wyn Prichard: Sgiliau Adeiladu (Cymru)
Chris Hughes: Fforwm Amgylchedd Adeiledig Cymru
Pwynt Cyswllt
Alex Still
Ffôn: 029 2089 8314
