Cofrestr Buddiannau’r Aelodau
Yn ôl Adran 36 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 2, mae’n ofynnol i’r Cynulliad Cenedlaethol gynnal a chyhoeddi Cofrestr Buddiannau Aelodau’r Cynulliad.Mae'n ofynnol i'r Aelodau gofrestru unrhyw fuddiannau perthnasol cyn pen wyth wythnos ar ôl tyngu'r llw neu roi cadarnhad a hefyd cofrestru unrhyw newidiadau i'r buddiannau hynny cyn pen pedair wythnos. Mae Adran 36(7)(a) o Deddf Llywodraeth Cymru yn pennu ei bod yn drosedd i unrhyw Aelod gymryd rhan yn nhrafodion y Cynulliad heb gofrestru unrhyw fuddiannau perthnasol fel y nodir yn yr Atodiad i Reol Sefydlog 2.
Mae hefyd yn ofynnol o dan Reol Sefydlog 4 i Aelodau gofnodi’r amser y maent yn ei dreulio yn ymwneud â gweithgarwch cofrestradwy; ac o dan Reol Sefydlog 5 i gofnodi eu haelodaeth o gymdeithasau. Caiff manylion unrhyw beth a gofnodir o dan Reolau Sefydlog 4 a 5 eu cynnwys yn y Gofrestr o Fuddiannau’r Aelodau (er nad ydynt yn dod o dan ofynion Deddf Llywodraeth Cymru).
Cyfrifoldeb yr Aelodau yn unig yw cydymffurfio â’r dyletswyddau’n ymwneud â chofrestru a datgan buddiannau, a dylid gwneud hyn yn unol â’r Canllaw ar Gofrestru, Datgan a Chofnodi Buddiannau’r Aelodau Gall Aelodau hefyd gael cyngor gan y Cofrestrydd Buddiannau’r Aelodau. Dylid cofrestru drwy lenwi’r ffurflen Cofrestru a Chofnodi Buddiannau’r Aelodau.
Archwilio’r Gofrestr
Cedwir Cofrestr Buddiannau’r Aelodau yn y Swyddfa Gyflwyno. Mae’n agored i’r cyhoedd ei harchwilio yn y Swyddfa Gyflwyno ei hun yn ystod ei horiau agor. Gellir trefnu bod copïau o fanylion unigol ar gael ar gais.Adroddiadau ar y Gofrestr
- Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Cofrestr y Pedwerydd Cynulliad 2011-2016
- Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Cofrestr y Trydydd Cynulliad 2007-2011
- Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Cofrestr yr Ail Gynulliad 2003-2007
- Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Cofrestr y Cynulliad Cyntaf 1999-2003
