Pwy all fod yn ymgeisydd?

I gymhwyso i fod yn ymgeisydd mewn etholiad ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru, dylai person fod:
  • O leiaf 18 mlwydd oed ar y diwrnod pleidleisio a’r diwrnod enwebu;
  • Yn ddinesydd Prydeinig, Gweriniaeth Iwerddon, y Gymanwlad neu aelod-wladwriaeth arall o’r Undeb Ewropeaidd.
Cyn arwyddo’r caniatâd i enwebiad, rhaid i ymgeiswyr wirio nad yw dim o’r anghymwysiadau sy’n eu rhwystro rhag bod yn Aelod yn gymwys iddyn nhw. Mae ystod o anghymwysiadau a allai rhwystro person rhag bod yn ymgeisydd yn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ni all person fod yn ymgeisydd os, ar adeg eu henwebu,

maen't yn

  • Farnwr;
  • Was sifil;
  • Aelod o’r lluoedd arfog;
  • Aelod o'r heddlu;
  • Aelod o ddeddfwrfa unrhyw wlad neu diriogaeth y tu allan i'r

    Gymanwlad (heblaw Yr Iwerddon);

  • Cael eu cyflogi fel aelod o staff y Cynulliad;

  • Dal swydd y sonir amdani yng Ngorchymyn (Gwahardd) Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2010;

  • Destun gorchymyn cyfyngiadau methdaliad neu orchymyn dros dro.

Hefyd gellir gwahardd person rhag sefyll mewn etholiad os yw wedi cael ei euogfarnu neu wedi cael ei ddatgan yn euog o ymarfer llwgr neu anghyfreithiol gan lys etholiad.

Ymgeiswyr etholaethol a rhanbarthol

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru 40 Aelod etholaethol, ac 20 Aelod rhanbarthol. Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn nodi nad oes hawl gan ymgeiswyr sefyll am etholiad mewn etholaeth a rhanbarth ar yr un pryd. Nid yw’n bosib i ymgeiswyr sefyll mewn mwy nag un etholaeth na mewn mwy nag un rhanbarth. (darparwyd y wybodaeth uchod gan y

Comisiwn Etholiadol

ar 20 Mai 2011)

Partneriaid a Help