Bwrdd Taliadau
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi sefydlu Bwrdd Taliadau annibynnol. Mae’r Bwrdd yn sicrhau bod gan Aelodau’r Cynulliad adnoddau teg a phriodol i wneud eu gwaith hanfodol o gynrychioli pobl Cymru, dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif a deddfu ar gyfer Cymru.
Sefydlwyd y Bwrdd drwy basio Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010, a sefydlu’r Bwrdd hwn oedd un o 108 o argymhellion y Panel Adolygu Annibynnol ar Gyflogau a Lwfansau'r Aelodau yn ei adroddiad ym mis Gorffennaf 2009.
Gwybodaeth

Cyhoeddodd y Bwrdd ei adroddiad cyntaf, Addas i’r Diben, a’i Benderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau Aelodau ym mis Mawrth 2011. Mae datganiad i’r wasg ar gael yma.
Ar y 14eg o Orffennaf 2011, cyhoeddodd y Bwrdd Taliadau ei ail adroddiad, Taliadau Deiliaid Swyddi, a’i Benderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau Aelodau diwygiedig. Ceir datganiad i’r wasg yma
Ar 9 Tachwedd 2011, cyhoeddodd y Bwrdd Taliadau ei adroddiad blynyddol cyntaf.
Y Bwrdd Taliadau
(L-R) Sandy Blair, Monojit Chatterji, George Reid (chair), Mary Carter, Stuart Castledine