Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Cod Ymddygiad Ar Gyfer Aelodau'r Cynulliad
Pwrpas y Cod
1. Pwrpas y Cod Ymddygiad hwn yw:
(a) rhoi canllawiau i holl Aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol ar y safonau ymddygiad a ddisgwylir ganddynt wrth gyflawni'u dyletswyddau i'r Cynulliad a'u dyletswyddau cyhoeddus;
(b) bod mor agored ac atebol ag sy'n bosibl er mwyn sicrhau bod gan y cyhoedd hyder yn y ffordd y mae Aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol yn cyflawni'u dyletswyddau i'r Cynulliad a'u dyletswyddau cyhoeddus.
2. Mae'r Cod yn berthnasol i holl Aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol sydd heb gymryd cyfnod o absenoldeb o'r gwaith.
Safonau Ymddygiad Cyffredinol
Ymddygiad Personol
3. Rhaid i Aelodau'r Cynulliad:
(a) gydymffurfio â'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Cynulliad;
(b) ymddwyn yn anrhydeddus bob amser;
(c) peidio â derbyn unrhyw arian fel cymhelliant neu dâl am arfer dylanwad seneddol;
(d) peidio â derbyn tâl neu unrhyw fudd materol arall am bleidleisio ar unrhyw Orchymyn neu gynnig, neu ofyn unrhyw gwestiwn yn y cyfarfod llawn neu bwyllgor, neu hyrwyddo unrhyw fater, (y rheolau ynghylch “adfocatiaeth ddi-dâl”).
4. Dylai Aelodau'r Cynulliad gadw at y saith egwyddor gyffredinol ynghylch ymddygiad a nodwyd gan y Pwyllgor ar Safonau Bywyd Cyhoeddus. Dyma'r saith egwyddor:
(a) Anhunanoldeb: Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus wneud penderfyniadau er lles y cyhoedd yn unig. Ni ddylent wneud penderfyniadau er mwyn iddynt hwy, eu teulu neu eu ffrindiau, elwa’n ariannol neu’n faterol. Dylai Aelodau'r Cynulliad osgoi unrhyw wrthdaro rhwng eu buddiannau personol a‘u buddiannau cyhoeddus a dylent ddatrys unrhyw wrthdaro rhwng y ddau ar unwaith a hynny o blaid buddiannau’r cyhoedd.
(b) Uniondeb: Ni ddylai deiliaid swyddi cyhoeddus eu rhoi eu hunain o dan unrhyw rwymedigaeth ariannol neu rwymedigaeth arall tuag at unigolion neu gyrff allanol a allai geisio dylanwadu arnynt wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau swyddogol. Dylai Aelodau'r Cynulliad bob amser ymddwyn mewn ffordd a fydd yn cynnal a chryfhau ffydd a hyder y cyhoedd yn unplygrwydd y Cynulliad ac osgoi unrhyw ymddygiad a fydd yn dwyn gwarth ar y Cynulliad neu ar ei aelodau'n gyffredinol. Ni ddylai'r Aelodau ofyn i weision sifil weithredu mewn unrhyw ffordd a allai gyfaddawdu amhleidioldeb gwleidyddol y Gwasanaeth Sifil neu wrthdaro â Chod y Gwasanaeth Sifil.
(c) Gwrthrychedd: Wrth gyflawni busnes cyhoeddus, gan gynnwys gwneud penodiadau cyhoeddus, dyfarnu contractau, neu argymell unigolion ar gyfer gwobrwyon neu fuddiannau, dylai deiliaid swyddi cyhoeddus wneud penderfyniadau yn ôl haeddiant.
(d) Atebolrwydd: Mae deiliaid swyddi cyhoeddus yn atebol i’r cyhoedd am eu penderfyniadau a’u gweithredoedd a rhaid iddynt gytuno i fod yn destun pa bynnag archwiliad sy’n addas i'r swydd. Ni ddylid gwneud unrhyw ddefnydd amhriodol o unrhyw daliad neu lwfans a roddir i Aelodau'r Cynulliad at ddibenion cyhoeddus a rhaid cadw at y rheolau gweinyddol sy'n gysylltiedig â thaliadau a lwfansau tebyg.
(e) Bod yn agored: Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus fod mor agored â phosibl ynghylch yr holl benderfyniadau a’r camau a gymerir ganddynt. Dylent roi rhesymau am eu penderfyniadau a pheidio â chyfyngu ar y wybodaeth onid oes angen am hynny er budd ehangach y cyhoedd. Ni ddylai Aelodau'r Cynulliad atal unrhyw berson rhag cael gwybodaeth y mae hawl gan y person o dan sylw ei gweld yn ôl y gyfraith, ond ni ddylai ddatgelu unrhyw wybodaeth gyfrinachol, gan gynnwys gwybodaeth gyfrinachol o Bwyllgorau'r Cynulliad, heb ganiatâd oni bai ei bod hi'n rheidrwydd arnynt o dan y gyfraith i wneud hynny. Dylai unrhyw wybodaeth gyfrinachol a dderbynnir gan yr Aelodau mewn perthynas â'u dyletswyddau swyddogol gael ei defnyddio i gyflawni'r dyletswyddau hynny yn unig ac ni ddylid ei defnyddio er budd personol. Mewn unrhyw weithgareddau sy'n ymwneud â, neu ar ran, sefydliad y mae gan yr Aelod gyswllt ariannol ag ef, gan gynnwys gweithgareddau lle nad oes cofnod cyhoeddus ohonynt megis cyfarfodydd anffurfiol, rhaid i Aelodau gadw mewn cof yr angen i fod yn agored gydag Aelodau eraill y Cynulliad, a swyddogion.
(f) Gonestrwydd: Mae’n ddyletswydd ar ddeiliaid swyddi cyhoeddus i ddatgan unrhyw fuddiannau preifat sy’n ymwneud â'u dyletswyddau cyhoeddus a chymryd camau i ddatrys unrhyw wrthdaro sy'n codi er mwyn diogelu buddiannau'r cyhoedd.
(g) Arweiniad: Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus hyrwyddo a chefnogi'r egwyddorion hyn drwy roi arweiniad a dangos esiampl.
Safonau Ymddygiad Penodol
Datgan Buddiannau
5. Rhaid i Aelodau'r Cynulliad gofrestru’r holl fuddiannau perthnasol a nodwyd yn yr Atodiad i Reol Sefydlog 31 yng Nghofrestr Buddiannau'r Aelodau, er mwyn nodi'n glir unrhyw fuddiannau y gellir eu hystyried yn rhai a fyddai'n dylanwadu ar eu gweithredoedd.
6. Dyma gategorïau y buddiannau y dylid eu cofrestru (fel y’u nodwyd yn yr Atodiad i Reol Sefydlog 31)
Unrhyw gyfarwyddiaethau sydd gan yr Aelod neu, hyd y gwyr yr Aelod, sydd gan bartner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol i'r Aelod, mewn cwmnïau preifat neu gyhoeddus, gan gynnwys y rhai di-dâl lle ceir cydnabyddiaeth ariannol drwy gwmni arall yn yr un grw^p.
Cyflogaeth, swydd, masnach, proffesiwn neu alwedigaeth (heblaw aelodaeth o’r Cynulliad) y mae’r Aelod neu, hyd y gwyr yr Aelod, y mae partner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol i'r Aelod, yn cael tâl amdanynt, neu y mae gan yr Aelod neu, hyd y gwyr yr Aelod, y mae gan bartner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol i'r Aelod, unrhyw fuddiant ariannol ynddynt.
Enwau cleientiaid, pan fydd y buddiannau y cyfeiriwyd atynt uchod yn cynnwys gwasanaethau gan yr Aelod neu, hyd y gwyr yr Aelod, gan bartner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol i'r Aelod, neu sy'n ymwneud mewn rhyw fodd ag aelodaeth o’r Cynulliad neu’n sy'n deillio o hynny.
Rhoddion, lletygarwch, buddion materol neu fantais faterol, y mae eu gwerth yn uwch na’r hyn a bennir mewn unrhyw benderfyniad gan y Cynulliad, a dderbynnir gan yr Aelod neu, hyd y gwyr yr Aelod, gan bartner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol i'r Aelod, oddi wrth gwmni, corff neu unigolyn ac sy'n ymwneud mewn rhyw fodd ag aelodaeth o’r Cynulliad neu’n sy'n deillio o hynny.
Unrhyw dâl neu fudd materol y mae’r Aelod neu, hyd y gwyr yr Aelod, y mae partner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol i'r Aelod, yn ei gael gan unrhyw gwmni preifat neu gyhoeddus neu unrhyw gorff arall sydd wedi tendro, neu sy’n tendro, am gontract gyda’r Cynulliad, neu sy'n meddu ar gontract.
Nawdd ariannol (i) fel ymgeisydd yn etholiad y Cynulliad lle, hyd y gwyr yr Aelod, bod y nawdd mewn unrhyw achos yn fwy na 25 y cant o gostau etholiad yr ymgeisydd neu (ii) fel Aelod o'r Cynulliad gan unrhyw berson neu sefydliad, gan nodi a fydd y cyfryw nawdd yn cynnwys tâl i'r Aelod neu unrhyw fantais neu fudd materol.
Yn unol ag unrhyw benderfyniad a wnaed gan y Cynulliad, ymweliadau tramor gan yr Aelod, neu hyd y gwyr yr Aelod, gan bartner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol i'r Aelod, sy'n ymwneud â neu'n deillio o Aelodaeth o'r Cynulliad, os na fydd costau ymweliad o'r fath wedi eu talu'n llawn gan yr Aelod neu gan arian cyhoeddus.
Unrhyw dir neu eiddo'r Aelod neu, hyd y gwyr yr Aelod, tir neu eiddo partner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol i'r Aelod, y mae iddo werth sylweddol fel y’i pennwyd mewn unrhyw benderfyniad gan y Cynulliad neu y ceir incwm sylweddol ohono, heblaw unrhyw gartref a ddefnyddir fel cartref personol gan yr Aelod, partner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol i'r Aelod.
Enwau'r cwmnïau neu gyrff eraill y mae gan yr Aelod fuddiant lles ynddynt naill ai ar ei ben/phen ei hun neu gyda, neu ar ran, partner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol, neu hyd y gwyr yr Aelod, y mae gan bartner yr Aelod, neu unrhyw blentyn dibynnol, fuddiant llesol mewn cyfranddaliadau sydd â’u gwerth yn fwy nag un y cant o’r cyfalaf cyfranddaliadau a gyhoeddwyd, neu lai nag un y cant ond mwy na'r swm a bennwyd mewn unrhyw benderfyniad a wnaed gan y Cynulliad.
Aelodaeth neu gadeiryddiaeth gyda thâl neu’n ddi-dâl sydd gan yr Aelod neu, hyd y gwyr yr Aelod, sydd gan bartner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol i'r Aelod, ar unrhyw gorff a ariennir yn llwyr neu’n rhannol gan y Cynulliad.
Datgan Buddiannau
7. Rhaid i Aelodau'r Cynulliad, cyn cymryd rhan mewn unrhyw weithdrefnau'r Cynulliad, ddatgan unrhyw fuddiant sy'n berthnasol, o dan Reol Sefydlog 31, yng nghyd-destun y drafodaeth neu'r mater sydd o dan sylw. Rhaid i ddatganiad fod yn gysylltiedig â’r penderfyniad a gaiff ei wneud yn y cyfarfod o dan sylw. Rhaid bod yn berthnasol i fater lle y gall yr Aelod (neu bartner neu blant dibynnol) elwa'n ariannol o'r penderfyniad, lle byddai'r fantais honno yn fwy na'r hyn y byddai pobl y mae’r penderfyniad yn effeithio’n gyffredinol arnynt yn disgwyl ei dderbyn. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn i'r gynulleidfa fedru ffurfio barn gytbwys o'r holl ddadleuon.
Gwahardd Pleidleisio mewn perthynas â Buddiannau a Gofrestrwyd
8. Nid oes gan Aelod yr hawl i bleidleisio mewn unrhyw un o weithdrefnau'r Cynulliad os, mewn perthynas ag unrhyw fuddiant y dylid bod wedi'i gofrestru, y gallai penderfyniad penodol gan y Cynulliad neu Bwyllgor olygu mwy o fantais ariannol i'r Aelod nag i'r rhai y mae’r penderfyniad yn effeithio’n gyffredinol arnynt.
Defnyddio Adnoddau'r Cynulliad
9. Gofynnir i Aelodau gydymffurfio â'r Canllawiau i Aelodau ar Ddefnyddio Adnoddau’r Cynulliad
, a gymeradwywyd gan Bwyllgor y Ty, ac unrhyw ganllawiau ar y defnydd o adnoddau'r Cynulliad sy'n ymwneud yn benodol ag ymgyrchoedd etholiadol.
Mynediad at Wybodaeth gan y Cyhoedd
10. Mae egwyddorion Cynulliad Cenedlaethol Cymru wrth ddarparu gwybodaeth wedi’u nodi yn y Cod Ymarfer ar Ganiatau i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth
, a gymeradwywyd gan Gomisiwn y Cynulliad. Mae gofyn i Aelodau’r Cynulliad sy’n chwilio am wybodaeth gydymffurfio gyda’r Cod trwy wneud cais ysgrifenedig i’r Cynghorydd Mynediad at Wybodaeth, yn Uned Gorfforaethol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r Cod wedi’i gyhoeddi ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn HTUhttp://www.cynulliadcymru.org/abthome/abt-foi/abt-foi-cop-pub.htmUTH
Y Berthynas rhwng Aelodau'r Cynulliad a Staff y Cynulliad
11. Mae holl staff Cynulliad Cenedlaethol Cymru (staff Comisiwn y Cynulliad) yn rhwymedig i God Ymddygiad Staff, ac mae staff Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau i fod yn rhwymedig i God y Gwasanaeth Sifil. Dylai Aelodau barchu egwyddorion y ddau God yma wrth ddelio gyda staff o’r ddau gorff. Dylai’r berthynas rhwng Aelodau a staff fod yn broffesiynol, a bod y naill ochr yn parchu’r llall, a dylai Aelodau ystyried dyletswydd y staff i fod yn ddi-duedd yn wleidyddol wrth gyflawni’u dyletswyddau.
Cyflogau a Lwfansau'r Aelodau
12. Gofynnir i Aelodau gydymffurfio â Phenderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Aelodau a Swyddogion y Cynulliad) (Cyflogau a Lwfansau ac ati),
a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.
13. Mae'r penderfyniad yn nodi'r cyflogau a'r lwfansau y mae'r Aelodau yn gymwys i'w derbyn trwy gyflawni dyletswyddau'r Cynulliad.
Dyletswyddau o ran y Comisiynydd Safonau a’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad
14. Bydd yr Aelodau yn cydweithredu, ym mhob cam, ag unrhyw ymchwiliad i’w hymddygiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 33; neu gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn unol â Rheol Sefydlog 16.1(i).
15. Ni fydd unrhyw Aelod yn lobïo aelod o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad mewn ffordd y cynllunnir neu y bwriedir iddi ddylanwadu arno/arni pan fydd yn ystyried cwyn ynghylch torri unrhyw un o’r materion a nodir yn Rheolau Sefydlog 16.1(i).
16. Ni ddylai unrhyw Aelod gamliwio unrhyw argymhelliad a wneir gan y Pwyllgor ar Safonau Ymddygiad mewn perthynas ag unrhyw gwyn y mae wedi’i hystyried o dan Weithdrefn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer Delio â Chwynion yn erbyn Aelodau’r Cynulliad
.
Gorfodi'r Cod Ymddygiad
17. Ymdrinnir ag unrhyw gyhuddiadau o beidio â chydymffurfio â'r Cod drwy'r broses a nodwyd yng Ngweithdrefn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer Delio â Chwynion yn erbyn Aelodau'r Cynulliad
a gymeradwywyd gan Bwyllgor Safonau Ymddygiad y Cynulliad Cenedlaethol.
18. Ceir gwybodaeth am rôl y Comisiynydd Safonau, gan gynnwys manylion cyswllt, ar wefan y Cynulliad (HUwww.cynulliadcymru.orgUH) neu yn Swyddfa’r Comisiynydd.
