Treuliau Aelodau'r Cynulliad

Mae gan Aelodau’r Cynulliad yr hawl i ddefnyddio  adnoddau i gyflogi staff a rhedeg swyddfeydd yn eu hetholaethau er mwyn ymdrin â materion ac achosion sy’n peri pryder i’r bobl y maent yn eu cynrychioli .  Gallant hefyd hawlio ad-daliad am unrhyw  gostau y byddant yn eu hysgwyddo pan fydd angen iddynt  aros dros nos o’u prif gartref wrth gyflawni  dyletswyddau swyddogol y Cynulliad.  

Mae’r rheolau’n gysylltiedig â’r hyn y cânt ei hawlio wedi’u nodi mewn ‘Penderfyniad’, ac mae’r fersiwn ddiweddaraf o’r ddogfen hon i’w gweld yma. Yn gyffredinol, mae hawliadau’n cael eu rhannu’n dri phrif fath,  sef:

  • Lwfans Costau Swyddfa (h.y. costau swyddfa’n ymwneud â’u dyletswyddau fel Aelodau’r Cynulliad)

  • Lwfans Costau Ychwanegol (h.y. costau’n ymwneud ag aros dros nos o’u prif gartref er mwyn cyflawni’u dyletswyddau fel Aelodau’r Cynulliad)

  • Lwfans Costau Teithio (h.y. costau teithio y byddant yn eu hysgwyddo wrth gyflawni’u dyletswyddau fel Aelodau’r Cynulliad )

Ers 2008, caiff yr hawliadau uchod eu cyhoeddi ar-lein a gellir chwilio drwyddynt drwy ddefnyddio’r System Cyhoeddi Lwfansau. Gellir chwilio’n ôl mis, math o lwfans, gwariant neu hyd yn oed yn ôl Aelod Cynulliad. Cânt eu rhestru’n ôl y mis yr hawliwyd y lwfans, nid y dyddiad yr ysgwyddwyd y gost, a chânt eu cyhoeddi dri mis wedyn.

Ffigurau dros dro yw’r rhain a gallant newid yn dilyn archwiliad allanol. Hefyd, os yw manylion hawliad yn golygu y bydd yn rhaid datgelu data personol sensitif neu’n gallu peryglu diogelwch (e.e. gwybodaeth yn ymwneud â chyfeiriad cartref, manylion siwrnai arferol neu gyflwr meddygol) ni fydd y manylion hynny’n cael eu cynnwys. Mae hyn yn ofynnol o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Rhyddid Gwybodaeth (y Senedd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru) 2008.

|

Bwrdd Taliadau

|

Bwrdd Taliadau

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi sefydlu Bwrdd Taliadau annibynnol. Mae’r Bwrdd yn sicrhau bod gan Aelodau’r Cynulliad adnoddau teg a phriodol i wneud eu gwaith hanfodol o gynrychioli pobl Cymru, dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif a deddfu ar gyfer Cymru.

Sefydlwyd y Bwrdd drwy basio'r Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 a sefydlu’r Bwrdd hwn oedd un o 108 o argymhellion y Panel Adolygu Annibynnol ar Dâl a Lwfansau Aelodau’r Cynulliad yn ei adroddiad ym mis Gorffennaf 2009.

Partneriaid a Help