Mynd i gyfarfod Pwyllgor
Mae croeso i chi eistedd yn yr oriel gyhoeddus i wylio cyfarfod Pwyllgor. Mae cyfleusterau ar gael i bobl sydd ag anableddau.Ar ddyddiau busnes, cynhelir cyfarfodydd pwyllgor ar foreau dydd Mawrth a boreau dydd Mercher, trwy’r dydd ar ddydd Iau ac weithiau ar ddydd Llun a dydd Gwener. Cynhelir cyfarfodydd pwyllgor yn y Senedd ym Mae Caerdydd neu mewn lleoliadau eraill trwy Gymru. Mae nifer o wahanol bwyllgorau sy’n ymdrin ag ystod eang o bynciau. Mae manylion am ddyddiadau, lleoliadau, agendas, papurau a chofnodion i’w gweld yn yr adran Bwyllgorau ar wefan y Cynulliad.
Os ydych am fynychu cyfarfod Pwyllgor, gallwch gadw sedd wythnos ymlaen llaw. Mae 27 sedd ar gael yn oriel gyhoeddus pob ystafell bwyllgor yn y Senedd fel arfer, a lle ar gyfer cadeiriau olwyn. Er ein bod yn cynghori pobl i gadw eu seddau ymlaen llaw i osgoi cael eu siomi pan gyrhaeddant, nid yw’n angenrheidiol bob amser oherwydd mae’n bosibl fod seddau ar gael ar y diwrnod – gofynnwch i’r staff wrth y ddesg wybodaeth.
Oherwydd y galw mawr posibl am seddau ar gyfer rhai Pwyllgorau, mae archebion ar gyfer grwpiau wedi’u cyfyngu i 10 mewn nifer er mwyn gwneud y gorau o gyfleoedd i’r cyhoedd gael dod i mewn. Bydd seddau’n cael eu dal am 15 munud ar ôl i’r cyfarfod ddechrau, ac yna’n cael eu rhyddhau i bobl sydd ar y rhestr wrth gefn. Os ydych yn gwybod y byddwch yn cyrraedd yn hwyr, rhowch wybod hyn pan fyddwch yn archebu’ch seddau fel y gellir cadw’r seddau nes i chi gyrraedd.
Gallwch ddarganfod beth fydd yn cael ei drafod mewn cyfarfod Pwyllgor, drwy edrych ar adran y Pwyllgorau yn y wefan hon. Bydd copiau o agendau hefyd ar gael wrth y ddesg wybodaeth. Gellir cael rhagor o wybodaeth trwy ffonio’r Llinell Wybodaeth ar 0845 010 5500. Mae gwybodaeth i’w chael hefyd ar y sgriniau plasma a’r sgriniau gwybodaeth yn y Senedd.
Mae cofnod o gyfarfodydd Pwyllgor blaenorol i’w gweld yng Nghofnod Trafodion y Cynulliad: C Cofnod y Trafodion
Archebu seddau
Gellir cadw seddau’r cyhoedd hyd at wythnos ymlaen llawn ac mae’n beth ddoeth archebu ymlaen llaw i wneud yn siwr o’ch sedd: I archebu sedd:
ffoniwch y Llinell Archebu ar 0845 010 5500 neu Ffôn Testun 0845 010 5678
e-bostiwch archebu@cymru.gov.uk
cwblhewch y ffurflen archebu electronig
ysgrifennwch at:
Gwasanaeth Archebu’r Cynulliad,
Canolfan Ymwelwyr Gogledd Cymru,
Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
Parc y Tywysog,
Rhodfa’r Tywysog,
Bae Colwyn,
Conwy,
LL29 8PL
